Roedd yna bryder gwirioneddol y gallai’r Prif Weinidog farw pan oedd Boris Johnson yn sâl gyda Covid-19 y llynedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart fod yna “ymdeimlad go iawn y gallwn ni ddeffro’r bore wedyn a chanfod ei fod wedi marw” pan oedd Mr Johnson yn sâl fis Ebrill diwethaf.
Dywedodd wrth bodlediad BBC WalesCast ei fod ef ynghyd â gwleidyddion blaenllaw eraill yn pryderu’n sylweddol am fywyd y Prif Weinidog.
“Boed i chi’n caru Boris neu’n ei gasáu mi oedd e’n gyfnod sobreiddiol tu hwnt,” meddai Mr Hart.
“Fe gawsom ni wybod tua 8 o’r gloch y nos ar y diwrnod fe syrthiodd e’n sâl ei fod yn mynd i’r uned gofal dwys.
Brwdfrydig
“Roedd e’n un o’r achlysuron yna oedd yn cyfleu difrifoldeb y sefyllfa gan atgyfnerthu nad oedd y feirws yma y tu hwnt i afael i unrhyw un.”
Dywedodd ei fod wedi synnu gan “nad oedd hyn yn y sgript,” pan glywodd fod Mr Johnson yn sâl.
Yn y diwrnodau cyn i’r Prif Weinidog syrthio’n sâl gyda Covid-19 fe wnaeth fynnu ei fod am “filwrio ymlaen” er ei fod yn amlwg yn sâl,
Dywedodd er bod Mr Johnson yn edrych yn “eithaf brwdfrydig”, gallai gofio dweud wrth gydweithiwr bod angen iddyn nhw orffen y cyfarfod yn fuan am ei fod yn “edrych yn arw”.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru hefyd amddiffyn ei feistr rhag cyhuddiadau iddo ymateb yn rhy araf neu fethu cyfarfodydd allweddol y llywodraeth yn gynnar yn y pandemig.
Yn hytrach, canmolodd “optimistiaeth ddi-dor” a “stamina eithriadol” arweinydd a oedd yn benderfynol o “geisio achub cymaint o fywydau ag y gallwn”.
Datganoli
Wrth siarad ar y podlediad fe ddywedodd Mr Hart ei fod yn credu bod ganddo berthynas gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn un “rhesymol” ond yn ei gyhuddo o “siarad am ddatganoli yn ddiddiwedd”.
Ond mae ei farn am gadw undod o fewn Deyrnas Unedig yn groes i Mark Drakeford sydd wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o roi’r undeb mewn perygl gan danseilio pwerau’r Senedd.
Ychwanegodd Mr Hart fod y rhaglenni ffyrlo a brechu yn dangos sut mae “undeb” y Deyrnas Unedig wedi bod yn sail i ymateb Cymru i’r pandemig.