Mae adroddiad newydd yn argymell y dylid sefydlu tasglu i archwilio a chyflwyno cynigion ar gyfer ymgorffori hawliau dynol yng nghyfreithiau Cymru.
Cafodd yr Adroddiad Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Awst 26), ac mae’n “gam pwysig” ar y daith i “greu Cymru decach”.
Fe gafodd yr ymchwil gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Diverse Cymru a Cymru Ifanc ei gomisiynu fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu clir er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hystyried a’u diogelu’n llawn.
Nod y gwaith, a ddechreuodd fis Ionawr y llynedd, oedd ymchwilio i ffyrdd o gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau deddfwriaethol, newidiadau polisi, newidiadau i ganllawiau neu unrhyw newid arall a fyddai’n cyflawni’r amcan.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i weithredu hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru.
Er mwyn symud ymlaen â’r uchod dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tasglu hawliau dynol i archwilio opsiynau a chyflwyno cynigion manwl ar gyfer ymgorffori hawliau dynol yng Nghymru.
Dylai’r tasglu fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a mabwysiadu dull cyfranogol o gynnwys pobol sydd â diddordeb, meddai’r adroddiad.
Dylai’r tasglu ystyried ffurfiau corffori cryfach na’r hyn a gafodd eu cyflwyno i gyfraith Cymru trwy’r dull o roi ‘sylw dyledus’ i hawliau dynol.
Yn benodol, dylai’r tasglu ystyried opsiynau a fyddai’n arwain at atebolrwydd cyfreithiol cryfach ar gyfer diffyg cydymffurfiad â hawliau dynol corfforedig nag sydd ar gael wrth fabwysiadu dull ‘sylw dyledus’ – sef yr hyn sydd wedi’i nodi mewn cyfreithiau ar hyn o bryd.
Dylai awdurdodau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru ddatblygu un datganiad cyffredin, sengl, clir a chyson yn nodi ymrwymiad i barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau dynol a chydraddoldeb, a chymryd camau i atal gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Ymhlith nifer o argymhellion eraill yn yr adroddiad, dylai hawliau dynol gael eu hymgorffori ym mhob proses polisi a chynllunio strategol.
Mae hynny’n cynnwys gosod amcanion cydraddoldeb strategol, amcanion llesiant a phenderfyniadau strategol y bydd dyletswydd economaidd-gymdeithasol yn berthnasol iddyn nhw.
‘Cam pwysig’
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn fanylach er mwyn gweld sut i’w hintegreiddio i’r gwaith sydd ganddyn nhw ar y gweill eisoes.
“Wrth i ni barhau i frwydro gyda realiti a chanlyniadau’r pandemig, mae amcanion llesiant Llywodraeth Cymru, a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu, yn canolbwyntio ar y meysydd lle mae angen gweithredu i’n helpu i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol,” meddai Jane Hutt AoS, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
“Mae’r adroddiad ymchwil hwn yn nodi’r ffordd mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol unigolion a chymunedau yng Nghymru, a gall helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol wrth i ni gyflawni’r amcanion hyn.
“Bydd yr argymhellion yn yr ymchwil nawr yn cael eu hystyried yn fanylach i weld sut y gellid eu hintegreiddio i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd a gwaith y dyfodol. Yn hyn o beth, mae rhai camau pwysig eisoes wedi’u cymryd yng Nghymru.
“Mae’n Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Heb os, bydd yr adroddiad yn llywio’r ffordd orau o ddatblygu’r gwaith ymgorffori hwn.
“Pan fo opsiynau ar gyfer modelau deddfwriaethol newydd ddod i’r amlwg o ganlyniad i’r ymchwil, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y rhain, ac yn trafod ag unrhyw gyrff cyhoeddus y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio arnynt.
“Mae cael gafael ar yr ymchwil hwn yn gam pwysig arall ar ein taith yn y gwaith hanfodol o gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
“Heb os, bydd yn ysgogi llawer iawn o drafodaethau a chamau gweithredu, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais i lunio dull unigryw Gymreig o greu cymdeithas gyfiawn a chyfartal, lle gall pobl fwynhau ac arfer eu hawliau o fewn Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal.”