Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwyno am brosiect i ddarparu gwerth £7.2m o gyfarpar diogelu personol (PPE) o Gymru i Namibia.

Mae’r wlad yn Affrica yn brwydro trydedd don o Covid-19 ac mae ganddi’r gyfradd farwolaethau waethaf dros y cyfandir gyfan.

Mae grant pellach o £500,000 yn cael ei roi ar gyfer offer ocsigen a hyfforddiant i nyrsys.

Mae Prosiect Phoenix yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, sy’n gweithio i leihau tlodi a hyrwyddo iechyd ac amgylchedd cynaladwy.

Ond mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r penderfyniad.

Helpu eraill ‘sy’n waeth eu byd’

Yn ôl Russell George, mi fydd rhai pobol yn y Deyrnas Unedig yn siwr o “godi aeliau” ar benderfyniad Llywodraeth Cymru.

“Fel y Deyrnas Unedig, dylem bob amser geisio helpu’r rhai sy’n waeth eu byd,” meddai.

“Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i wario hanner miliwn o bunnoedd ac anfon gwerth £7m o PPE i wlad sy’n aml yn cael ei gyhuddo o lygredd gwleidyddol yn siŵr o godi aeliau, yn enwedig pan fydd gweinidogion ym Mae Caerdydd yn honni bod adnoddau’n cael eu hymestyn yn rheolaidd gan feio Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Wrth i ni symud i dymhorau mwy heriol yr hydref a’r gaeaf, rhaid i weinidogion Llywodraeth Cymru gadarnhau bod gennym gyflenwad helaeth o PPE yng Nghymru a bod yr arian a roddir i Namibia yn sicr o gael ei ddefnyddio at y dibenion a nodir, heb eu colli ym mhoced cefn rhywun.”

Heddiw (dydd Iau, Awst 26), roedd Mark Drakeford yng Nghasnewydd i weld y nwyddau fydd yn cael eu danfon i Nambia, gan fynnu bod Cymru yn benderfynol o gymryd cyfrifoldeb o ran digwyddiadau byd-eang.

 

“Gwych bod yng Nghasnewydd i gael nodi ein Rhode o gyfarpar diogelu personol i Nambia. Ni fydd yn ddiogel nes bo pawb honom yn ddiogel,” meddai ar Twitter.

Daw’r penderfyniad i helpu Nambia yn dilyn pwysau gan academydd o Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd, Judith Hall, sydd hefyd yn arwain y cynllun ‘Phoenix Project’.

“Gofynnais am rodd PPE gan Lywodraeth Cymru – ac anfonais restr ato [Mark Drakeford] o’r cannoedd o filoedd o eitemau y mae wir angen ar Namibïaid i ymladd yn erbyn Covid,” meddai.

“Daethon nhw yn ôl gyda rhodd anhygoel o filiynau o PPE, gwerth $150m o ddoleri Nambia.

“Bydd y rhoddion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr a chynaladwy i bobol Namibia ac yn y tymor byr, bydd miloedd o fywydau’n cael eu hachub.”

Cymru yn anfon cyfarpar diogelu personol gwerth £7.2 miliwn i Namibia

“Mae gan Namibia broblem ddifrifol o ran cyflenwad ocsigen a diffyg pobl sydd â’r sgiliau i ddarparu ocsigen i achub bywydau’r rhai sydd â COVID-19″