Mae Plaid Cymru yn galw am wella canllawiau ar ddarparu awyr iach mewn dosbarthiadau.
Mae tystiolaeth fod cadw awyr iach cyson yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r firws, sydd yn ymledu’n hawdd yn yr aer dan do.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ddoe (dydd Mercher, Awst 25) ar gyfer ysgolion sy’n ailagor fis Medi.
Bydd rhaid i ddisgyblion blwyddyn 7 a hŷn wisgo masg dan do ac ar drafnidiaeth, yn ogystal â chael prawf am Covid-19 cyn dychwelyd.
Roedd arweiniad ym mis Mehefin gan Y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn awgrymu y dylid darparu awyr iach mewn ystafelloedd dosbarth, drwy wella systemau aerdymheru ac agor ffenestri led y pen.
Dydy Llywodraeth Cymru heb gynnwys awgrymiadau yn eu canllawiau diweddaraf am sut y gall ysgolion ddarparu awyr iach.
‘Siomedig’
Mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r alwad am ddarparu awyr iach mewn ysgolion, gan bwysleisio bod angen gwella systemau aerdymheru rhai ysgolion i leihau’r risg o ymlediad.
Maen nhw’n pryderu y bydd agor ffenestri’n achosi i ddosbarthiadau fod yn rhy oer yn ystod y gaeaf.
“Er bod croeso i adnewyddu canllawiau ar gyfer ysgolion, mae’n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud defnydd da o gyfnod gwyliau’r haf i roi cynlluniau ar waith ar gyfer awyru priodol mewn ysgolion,” meddai Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru.
“Mae tystiolaeth wyddonol gynyddol yn awgrymu’r rôl enfawr y mae awyru’n ei chwarae o ran lleihau lledaeniad firysau yn yr aer fel Covid-19.
“Annog awyr iach i gylchredeg mewn mannau dan do yw un o’n dulliau allweddol o fynd i’r afael â Covid-19.
“Rydyn ni’n gwybod fod bod yn yr awyr agored yn lleihau’r risg yn sylweddol, felly pam mae’r llywodraeth yn petruso rhag defnyddio awyru i leihau’r broses o drosglwyddo mewn ysgolion?
“Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r amrediad llawn o ddulliau sydd ar gael i gadw plant yn ddiogel ac atal Covid-19 rhag lledaenu ymhlith y boblogaeth sydd leiaf tebygol o gael eu brechu.”