Wrth i bobol baratoi i ddod ynghyd ar gyfer Dydd Nadolig yfory, mae meddyg teulu o Ben Llŷn yn atgoffa pawb o’r pwysigrwydd o sicrhau bod digon o awyr iach yn dod mewn i’r tŷ.
Yn ôl Dr Eilir Hughes, sy’n feddyg teulu ym Mhen Llŷn, mae agor ffenestri mewn stafelloedd lle mae pobl wedi dod at ei gilydd yn gallu lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws.
“Mewn awyr iach mae’r feirws yn gwasgaru ar y gwynt,” meddai’r meddyg wrth golwg360.
Wrth beidio â sicrhau fod awyr iach yn dod mewn i’r cartref, mae risg fod y feirws yn “aerledu.”
“Does dim term Cymraeg am airborne,” esbonia Dr Eilir Hughes, “felly, dwi wedi creu gair newydd – aerledu – sy’n golygu fod y feirws yn lledaenu yn yr aer.”
“Sefyllfa berffaith” i’r feirws
“Mae risg aerlediad ar ei uchaf pan mae nifer o bobol yn cymysgu dan do am amser,” meddai.
“Tua phump neu chwech o bobol yn eistedd mewn ystafell fyw ar brynhawn Nadolig yn gwylio araith y Frenhines yw’r sefyllfa berffaith i ymlediad ddigwydd.
“Agorwch y ffenestri, fel bod aer ffres yn dod mewn ac yn cymryd lle’r hen aer, a allai fod yn cario dafnau o’r feirws, ac yn gwthio’r aer stel yma allan.”
Mae Dr Eilir Hughes yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i gadw pellter, a gwisgo mygydau hefyd.
“Awyr gwell”
“Pam, felly, fod hyn yn bwysig? Mae’n bwysig fel fod y camau cywir mewn lle i ostwng y risg.
“Mae astudiaethau ar draws y byd yn dangos fod digwyddiadau wedi bod lle mae nifer o bobol wedi dal y feirws, a hynny drwy aerledu.
“Mae hyn yn rhywbeth ychwanegol i bobol ystyried wrth i ni ddod at ein gilydd y Nadolig hwn,” meddai Dr Eilir Hughes.
Mae’r meddyg wedi mynd ati i greu fersiwn newydd o’r symbolau sy’n cyfeirio at ‘ddwylo glân – masg ymlaen – cadwa’n bell’, gan ychwanegu ‘awyr gwell’.
Risg o ledaenu Covid-19 yn gostwng 70% wrth awyru’r ’stafell
Fel rhan o ymgyrch Awyr Iach, sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd awyru’r aer, bu’r meddygon yn apelio ar Lywodraeth Cymru i weithredu.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod sicrhau bod awyr iach yn dod mewn i adeilad yn gostwng y risg o ledaenu’r feirws o 70%.
Pwysleisia’r Dr Eilir Hughes fod rhaid “gwneud gwaith i godi ymwybyddiaeth o’r camau hyn sy’n gostwng y risg.”