Mae tua 20 o fudwyr o Affrica wedi cael eu canfod yn farw ar ôl i’w cwch, oedd yn ceisio cyrraedd Ewrop, suddo ym Mor y Canoldir, meddai’r awdurdodau yn Tunisia.

Cafodd pump o bobl eu hachub ac mae Llynges Twnisia yn chwilio am hyd at 20 o bobl eraill y credir sy’n dal ar goll.

Roedd gwylwyr y glannau a physgotwyr lleol wedi dod o hyd i gyrff y mudwyr ger dinas Sfax yn Twnisia.

Yn ôl y rhai a oroesodd, roedd y cwch yn cludo tua 40 neu 50 o bobl oedd yn ceisio cyrraedd yr Eidal.

Mae’n debyg bod gormod o bobl ar y cwch, oedd mewn cyflwr gwael, a bod gwyntoedd cryfion ddydd Iau wedi cyfrannu at suddo’r cwch.