Er bod disgwyl cyhoeddi heddiw am gytundeb masnach Brexit, mae’n ymddangos bod y trafodaethau ym Mrwsel yn parhau.
Mae’n debyg bod hawliau pysgota yn parhau’n faen tramgwydd.
Yn y cyfamser mae llysgenhadon y gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd wedi clywed na fyddan nhw’n cael cais i edrych ar gytundeb Brexit heddiw (Noswyl Nadolig).
Dywedodd Sebastian Fischer, llefarydd ar ran llywydd yr Almaen o Gyngor yr Undeb Ewropeaidd, na fydd cyfarfod yn cael ei alw gan fod y trafodaethau “yn parhau”.
“Ar yr un pryd, ry’n ni wedi gofyn i lysgenhadon yr UE i fod ar gael yn ystod cyfnod y Nadolig,” meddai.
Mae’r 27 gwlad sy’n aelodau o’r UE yn gorfod cytuno ar unrhyw gytundeb sy’n cael ei drafod gan swyddogion Brwsel a’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Roedd criw camerâu wedi cyrraedd y tu allan i Downing Street yn gynharach bore ma gan fod disgwyl cyhoeddiad yn fuan. Ond mae’n ymddangos y gallai fod yn rai oriau eto, er bod y trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal drwy gydol y nos.
Mae disgwyl i’r cytundeb gynnwys tua 2,000 o dudalennau o fanylion cyfreithiol a thechnegol.