Mae cytundeb masnach ôl-Brexit wedi cael ei gytuno rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar ôl misoedd o drafodaethau a bargeinio munud olaf.

Daeth y ddwy ochr i gytundeb ar Noswyl Nadolig, wythnos yn unig cyn i’r trefniadau masnachu cyfredol ddod i ben.

Dywedodd ffynhonnell ar ran swyddogion y Deyrnas Unedig bod y cytundeb yn cynnwys “popeth oedd wedi cael ei addo i bobl gwledydd Prydain yn ystod refferendwm 2016.”

Fe fu’r Prif Weinidog Boris Johnson a llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen mewn cysylltiad agos dros y dyddiau diwethaf er mwyn sicrhau cytundeb.

Ond bu i’r trafodaethau rhwng Michel Barnier o’r UE a’r Arglwydd Frost o’r DU barhau yn ystod y dydd wrth i’r manylion olaf gael eu negodi. Mae’n debyg mai hawliau pysgota oedd y prif faen tramgwydd.

Fe fydd yn rhaid i’r cytundeb gael cymeradwyaeth holl wledydd yr UE ynghyd a Senedd San Steffan.

Bydd ASau’n cael eu galw’n ôl wythnos nesaf – ond mae Senedd Ewrop eisioes wedi dweud na fydd yn ei drafod tan y flwyddyn newydd, felly mae’n debyg y bydd y gytundeb yn un dros dro i gychwyn.

Dywedodd Boris Johnson bod y cytundeb gyda Brwsel yn “gytundeb da ar gyfer holl wledydd Ewrop.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio y bydd pleidlais seneddol ar y cytundeb ar Ragfyr 30.

“Adennill rheolaeth”

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Rydym wedi adennill rheolaeth dros ein harian, ein ffiniau, ein cyfreithiau, ein masnach, a’n dyfroedd pysgota.

“Mae’r cytundeb yn newyddion gwych i deuluoedd a busnesau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Rydym wedi arwyddo’r cytundeb masnach rydd gyntaf sydd wedi ei seilio ar ddim tariffau a dim cwotâu gyda’r Undeb Ewropeaidd. Dyma’r cytundeb mwyaf i’r ddwy ochr ei harwyddo.

“Mae’r cytundeb yn sicrhau nad ydym ni’n gorfod dilyn yr Undeb Ewropeaidd, nid ydym ni’n gaeth i reolau’r Undeb Ewropeaidd, does gan Lys Cyfiawnder Ewrop ddim rhan i’w chwarae yma, ac rydym wedi llwyddo i gael ein sofraniaeth yn ôl.”

“Mae’n golygu fod gennym annibyniaeth economaidd a gwleidyddol lawn o Ionawr 1 ymlaen. Bydd system fewnfudo sy’n seiliedig ar bwyntiau yn rhoi’r grym i ni benderfynu pwy sy’n dod i wledydd Prydain, a bydd y rhyddid i symud yn gorffen.

“Rydym ni wedi dod i’r cytundeb yma yn brydlon er mwyn y Deyrnas Unedig, ac o dan amgylchiadau heriol iawn. Rydym ni wedi cwblhau Brexit a nawr gallwn lawn fanteisio ar y cyfleoedd gwych sydd ar gael i ni fel cenedl fasnachol annibynnol, gan fynd ati i wneud cytundebau masnach gyda phartneriaid o amgylch y byd.”

Michel Barnier  – “newidiadau gwirioneddol”

Mae prif negodwr yr UE Michel Barnier wedi diolch i’r rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig a’r broses.

“Mae heddiw yn ddiwrnod o ryddhad ond hefyd ychydig o dristwch. Wrth i ni gymharu beth ddaeth cyn hyn a beth sy’n ei disgwyl.”

Ychwanegodd bod “newidiadau gwirioneddol” yn disgwyl nifer o ddinasyddion a busnesau o fewn ychydig ddyddiau “a dyna yw canlyniad Brexit. Ond ry’n ni hefyd wedi adeiladu partneriaeth newydd ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen: “Dyma’r amser i droi’r dudalen ac edrych tua’r dyfodol”

Fe fydd yr UE a’r DU “yn sefyll ochr yn ochr” meddai gan ychwanegu bod y “DU yn parhau’n bartner y gallwn ymddiried ynddi.”

Dim Cynllun Erasmus i Brydain

Un golled a ddenodd sylw ar unwaith oedd na fydd y Deyrnas Unedig bellach yn cymryd rhan yn y cynllun cyfnewid myfyrwyr, Erasmus.

Dywedodd Mr Johnson mai’r rheswm am hyn yw ei fod yn “ddrud iawn”.

Soniodd yn fras am gynllun Prydeinig amgen o’r enw ‘Cynllun Turing’ fydd â’r nod o gyfnewid myfyrwyr gyda gweddill y byd.

Mae sawl llais wedi beirniadu’r penderfyniad hwn – ac mae’n siŵr nad dyna fydd diwedd y dadlau.

Cymru

“Nid yw’n gytundeb da” yn ôl Jeremy Miles, y Gweinidog Pontio Ewropeaidd

A’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dweud bod yr amseru yn “warthus”

Cefn Gwlad

Rhyddhad i’r diwydiant amaeth yng Nghymru wrth i gytundeb Brexit osgoi “trychineb”

Ond rhwystrau newydd am “ychwanegu at y gost o wneud busnes” medd NFU Cymru