Mae Hybu Cig Cymru, sy’n cynrychioli secotrau cig oen a chig eidion, wedi mynegi rhyddhad fod y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi dod i gytundeb masnach.

Heb gytundeb, byddai allforion cig coch Cymru wedi bod yn destun tariffau ar lefel Sefydliad Masnach y Byd rhwng 40% ac 80%, a byddai hynny wedi bygwth allforion cig oen a chig eidion Cymru, meddai.

Ar hyn o bryd mae 90% o’r allforion yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd, masnach sy’n werth £180 miliwn y flwyddyn.

Bydd y cytundeb newydd yn galluogi masnach i barhau heb dariffau ar ôl 1 Ionawr 2021.

Bydd rhai beichiau gwleidyddol newydd yn sgil Brexit, gyda thystysgrifau allforio a mwy o waith papur yn ofynnol ar ddechrau 2021, meddai Hybu Cig Cymru.

Er hynny, gall ffermwyr a phroseswyr cig edrych ymlaen at barhau i adeiladu’r fasnach heb risg o dollau anferth.

“Diwrnod da i’r sector”

“Byddai colli’r fasnach gyda marchnad o 500 miliwn o gwsmeriaid ar garreg ein drws, sydd wedi cymryd degawdau i’w hadeiladu, wedi bod yn drychineb,” meddai Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Kevin Roberts.

“Mae synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd ar ôl pedair blynedd o ansicrwydd i’n ffermwyr a’n hallforwyr,” ychwanegodd.

“Rydym yn ddiolchgar i’n partneriaid Ewropeaidd am barhau’n driw i ni drwy’r cyfnod anodd hwn, wrth i drafodaethau barhau tan y funud ola.”

“Byddai sefyllfa Dim Cytundeb wedi bod yn drychineb i’n sector,” meddai Kevin Roberts.

“Nawr gallwn adeiladu ar yr enw da rhagorol sydd gan Gig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI gyda manwerthwyr Ewropeaidd a chwmnïau gwasanaeth bwyd. Rydym yn cynnig yn union yr hyn y mae’r cwsmer modern ei eisiau; cig sy’n cael ei gynhyrchu i’r safonau uchaf o ran cynaliadwyedd a lles, sy’n medru cael ei olrhain yn llawn o’r fferm i’r fforc.”

Ychwanegodd, “rydym hefyd yn edrych ymlaen at adeiladu perthnasau masnach newydd ledled y byd fel yr ydym wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – mae allforion cig oen i’r Dwyrain Canol yn tyfu’n gyflym, ac mae potensial enfawr yng Ngogledd America, Asia a mannau eraill.

“Mae hwn yn ddiwrnod da i’r sector bwyd a ffermio yng Nghymru.”

‘Rhwystrau newydd yn ychwanegu at y gost o wneud busnes’

Croesawodd NFU Cymru y newyddion bod Brexit heb gytundeb wedi’i osgoi gan bwysleisio pwysigrwydd y sector ffermio i economi Cymru.

Ond sonioadd hefyd am rwystrau newydd i fasnachu a ddaw yn sgil y fargen.

Dywedodd llywydd yr Undeb, John Davies: “Bydd angen i ni nawr gymryd ein hamser i ddadansoddi a threulio’r hyn y cytunwyd arno a’r goblygiadau i’n sector ac aelodau NFU Cymru.

“Mae’n rhaid i ni hefyd fod yn realistig a chofio, er y bydd y cytundeb heddiw yn gweld tariffau a chwotâu’n cael eu dileu ar y fasnach cynhyrchion bwyd-amaeth, fel trydedd wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd bydd ein hallforion yn ddarostyngedig i weithdrefnau a rheolaethau nad oeddent yn berthnasol o’r blaen.

“Mae’r rhwystrau hyn – rhwystrau nad ydynt yn dariffau – yn llesteirio masnachu ac yn ychwanegu at y gost o wneud busnes.

“Rhaid canolbwyntio pob ymdrech nawr ar gydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o leihau effaith biwrocratiaeth a rhwystrau nad ydynt yn dariffau ar symud nwyddau.

“Hyd nes y byddwn yn symud tuag at y trefniant masnachu newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd ymhen ychydig ddyddiau, ni allwn wybod yn union sut y bydd yn setlo.”

“Synnwyr cyffredin yn trechu”

Yn gynharach heddiw, dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, y bydd “diwydiant amaeth Cymru, fel eraill ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, yn dathlu’r Nadolig ac yn teimlo cryn ryddhad bod cytundeb ar y ffordd.”

Meddai’r Llywydd, Glyn Roberts: “Byddai goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ofnadwy i amaethyddiaeth, a diwydiannau eraill.”

“Roedden ni’n gobeithio y byddai synnwyr cyffredin yn trechu.”

Brexit: Cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd

Mae’n dilyn misoedd o drafodaethau a bargeinio munud olaf