Mae ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymru wedi croesawu’r newyddion fod Cytundeb Brexit ar ei ffordd, mae’n debyg, yn yr oriau nesaf.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: “Byddai goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ofnadwy i amaethyddiaeth, a diwydiannau eraill.

“Roedden ni’n gobeithio y byddai synnwyr cyffredin yn trechu. Ond, mae peryg i un ochr neu’r llall wrthod cyfaddawdu gan arwain at y canlyniad gwaethaf posib.”

Fe wnaeth Glyn Roberts groesawu penderfyniad yr Undeb Ewropeaidd i restru’r Deyrnas Unedig fel “trydedd gwlad” – symudiad sy’n hanfodol i alluogi Cymru i allforio bwyd i’r Undeb Ewropeaidd.

“Ond, bydd ein mynediad at farchnad yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu rhwystrau sylweddol ar ôl Rhagfyr 31, gyda disgwyl i gostau’r trothwy di-dariff godi o 4% i 8%. Mae Cymru yn allforio tri chwarter ein bwydydd ac ein diodydd i’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.”

Dywedodd Glyn Roberts y byddai’n rhaid craffu ar destun llawn y cytundeb er mwyn asesu’r holl effeithiau a buddion, a bod nifer o bryderon yn bodoli, gan gynnwys telerau’r cytundeb i allforio hadau tatws.

“Er hynny, bydd diwydiant amaeth Cymru, fel eraill ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, yn dathlu’r Nadolig ac yn teimlo cryn ryddhad bod cytundeb ar y ffordd.”