Mae cwmni peirianneg o Abertawe wedi cael sêl bendith i gyflenwi masgiau i’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru.

Brother Engineering yw’r gwneuthurwr masgiau cyntaf yng Nghymru i fodloni’r gofynion rheoleiddiol sydd eu hangen i allu cyflenwi GIG Cymru.

Mae’r cwmni peirianneg wedi addasu ei ffordd o weithio yn ystod y misoedd diwethaf er mwyn cynhyrchu a chyflenwi cyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol.

Mae’r cam hwn, sy’n cael ei gefnogi gan gronfa gymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Covid-19 Llywodraeth Cymru, wedi creu swyddi newydd gan gynnwys cyflogi tri o bobl gafodd eu diswyddo gan gwmnïau lleol o ganlyniad i effeithiau economaidd y pandemig.

5 miliwn o fasgiau bob mis

O dan yr enw Blu Thomas Medical, fe fydd yn bosib defnyddio masgiau llawfeddygol y cwmni, sy’n cael eu cynhyrchu yn ei ffatri ym Mhontardawe, mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru.

Mae hefyd yn cyfrannu 60,000 o fasgiau i elusennau lleol yn ardal Abertawe a fydd yn gweithio gyda phobl mewn angen dros gyfnod y Nadolig.

Erbyn hyn, mae gan y cwmni’r capasiti i gynhyrchu hyd at 5 miliwn o fasgiau bob mis sy’n cael eu defnyddio i ddiogelu gweithwyr rheng flaen y GIG a’r sector gofal iechyd.

“Ymateb yn wych i’r her”

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: “Drwy gydol y flwyddyn hynod anodd hon, rydym wedi gweld ein busnesau’n ymateb yn wych i’r her o’n helpu ni i gynhyrchu PPE y mae ei wir angen.

“Rwyf wedi rhyfeddu’n fawr at gwmnïau sydd wedi mynd yr ail filltir er mwyn addasu eu ffyrdd o weithio a meddwl yn arloesol i ymuno â’n hymdrechion i ddelio â’r coronafeirws a chefnogi’r rhai ar reng flaen ein gwasanaeth iechyd.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn Brother Engineering am eu holl waith caled yn cynhyrchu eitem mor hanfodol o PPE ac mae’n dyst i sgiliau a galluoedd y gweithlu.”

“Oriau hir”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Brother Engineering, Blu Thomas: “Rydym wrth ein bodd ein bod, drwy ein buddsoddiad a’n gwaith caled, wedi gallu bodloni’r gofynion rheoleiddiol a allai ein galluogi i gyflenwi masgiau i GIG Cymru a thu hwnt.

“Mae’r tîm yma wedi gweithio oriau hir i gyflawni hyn, ond rydym hefyd wedi cael cymorth aruthrol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cynorthwyo gyda chyllid a sicrhau arbenigedd, a gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol y GIG ei hun.”