Mae Tsieina wedi atal awyrennau rhag teithio rhwng y wlad a’r Deyrnas Unedig, yn sgil amrywiolyn newydd o’r coronafeirws.

Daw cyhoeddiad Gweinidog Tramor Tsieina wedi i nifer o wledydd eraill wahardd teithwyr o’r Deyrnas Unedig.

Nid yw’r wlad wedi rhyddhau manylion ynglŷn â pha awyrennau fydd yn cael eu heffeithio gan y gwaharddiad.

Ddydd Mawrth (Rhagfyr 22), dywedodd y Ganolfan Ceisiadau Fisas Tsieineaidd yn Llundain eu bod yn atal awyrennau am gyfnod amhenodol.

Cafodd pobol sydd heb basbort Tsineaidd eu gwahardd rhag teithio o’r Ddeyrnas Unedig i Tsiena ym mis Tachwedd.