Yng Nghymru, mae nifer y bobl sy’n cael prawf positif am Covid-19 wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Amcangyfrifir bod 52,200 o bobl mewn aelwydydd preifat wedi cael Covid-19 rhwng Rhagfyr 12 a 18 – sy’n gyfystyr a 1.72% o’r boblogaeth neu tua 1 ymhob 60 o bobl.
Mae hyn yn gynnydd o’r amcangyfrif o 33,400 o bobl yn y cyfnod rhwng Rhagfyr 6 a 12, neu un ymhob 90 o bobl.
Yn y cyfasmer cafodd 2,161 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws eu cofnodi yng Nghymru heddiw (Rhagfyr 24), gan fynd â chyfanswm yr achosion wedi’u cadarnhau i 133,263.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi 63 yn rhagor o farwolaethau o fewn y 24 awr ddiwethaf, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 3,263.