Fe allai miloedd o yrwyr lorïau fod yn sownd yng Nghaint dros y Nadolig yn dilyn gwaharddiad Ffrainc.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi awgrymu na fydd y ciwiau yn dechrau symud am o leiaf 24 awr arall.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps y bydd y 6,000 lori yn dechrau symud ddydd Nadolig.

Yn y cyfamser mae tîm o ddiffoddwyr tân o Ffrainc wedi cael eu hanfon i Dover gyda phrofion Covid-19 ar gyfer gyrwyr lorïau sy’n gobeithio croesi’r sianel.

Daeth y 26 diffoddwr tân â 10,000 o brofion i’r porthladd, meddai Llysgennad Ffrainc yn y Deyrnas Unedig, Catherine Colonna.

Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi mynnu bod yn rhaid i yrwyr brofi’n negatif am y coronafeirws cyn cael croesi i Ffrainc.

Mae hyn yn rhan o’r ymdrechion i ailagor y ffin, ar ôl i Ffrainc wahardd lorïau o’r Deyrnas Unedig ddechrau’r wythnos ymysg ofnau am amrywiolyn newydd o Covid-19.

“Cydweithredu gwych”

Mae Grant Shapps, wedi dweud fod y ddwy wlad wedi cytuno i gadw’r ffin ar agor “drwy gydol y Nadolig”.

Ar Trydar dywedodd:

“Wrth i’r profi barhau yng Nghaint (ffigurau a chanlyniadau diweddaraf ar y ffordd yn fuan), rwyf wedi siarad gyda Gweinidog Trafnidiaeth Ffrainc, Jean-Baptise Djebbari, ac rydym wedi cytuno y bydd y ffin â Ffrainc yn aros ar agor yn yr Eurotunnel, Dover, a Calais trwy gydol y Nadolig. Bydd hyn yn helpu gyrwyr lorïau a dinasyddion i gyrraedd adre cyn gynted â phosib.”

Mae Grant Shapps wedi addo y bydd llongau fferi yn hwylio ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

Mewn neges ar Trydar dywedodd:

“Ynghyd â sicrhau fod llongau’n hwylio ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan, rydym wedi gweld cydweithio gwych wrth i ddiffoddwyr tân Ffrainc weithio gyda system Profi ac Olrhain y GIG, a’r fyddin mewn ymdrech i glirio’r ciwiau a ffurfiodd yn sgil cau’r ffin â Ffrainc.”