Mae arweinwyr undeb wedi rhybuddio y gallai’r cytundeb masnach ôl-Brexit sydd wedi ei gytuno rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd beryglu hawliau gweithwyr ac na fydd yn diogelu swyddi.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Frances O’Grady bod y cytundeb yn well na dim cytundeb “ond nid llawer.”

“Wrth i ni ddod allan o’r pandemig ry’n ni’n wynebu cyfnod tyngedfennol o ran swyddi a safonau byw. Cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw sicrhau nad yw teuluoedd sy’n gweithio ar eu colled.

“Nawr, mae’n rhaid i’r Prif Weinidog wireddu ei addewidion i wneud Prydain yn fwy cyfartal. Ac mae’n rhaid iddo weithredu’n gyflym.

“Ni all bwyntio’r bys at yr UE rhagor. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau strategaeth ddiwydiannol ar gyfer gwaith safonol, gyda buddsoddiad mewn swyddi a diwydiannau gwyrdd mewn rhannau o’r wlad sydd eu hangen fwyaf.”