Wrth ymateb i’r newyddion fod cytundeb wedi’i sicrhau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud bod cytundeb gwan yn well na dim cytundeb ond mae wedi beirniadu amseriad y cytundeb wythnos yn unig cyn i’r cyfnod trosglwyddo ddod i ben.

“Mae’n warthus ei bod wedi cymryd tan wythnos cyn i ni adael y cyfnod pontio i roi’r arwydd cyntaf o’r telerau y byddwn yn masnachu arnynt gyda’n partner masnachu pwysicaf. Bydd hyn yn ychwanegu at yr heriau enfawr sy’n wynebu ein busnesau ni,” meddai.

Dywedodd Mark Drakeford: “Wrth gwrs, mae angen i ni dderbyn copi o’r Cytundeb drafft a dadansoddi ei delerau cyn gwneud sylwadau manwl.

“Ond ym mhob cam o’r trafodaethau rydym wedi dadlau dros gytundeb a fyddai’n ein galluogi i gynnal y berthynas agosaf bosibl â’r UE. Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym mai dyma’r ffordd i ddiogelu’r economi a swyddi.

“Yn wyneb dau ddewis rhwng dim cytundeb a hyn – yn wir unrhyw gytundeb – byddem yn ffafrio cytundeb.”

Ychwanegodd: “Er nad oes gennym unrhyw fanylion, rydym yn gwybod nad y cytundeb hwn yw’r un y byddem ni wedi’i drefnu – ar ôl 31 Rhagfyr, bydd busnesau Cymru yn parhau i wynebu rhwystrau newydd mawr wrth fasnachu; ni fydd dinasyddion Cymru yn gallu teithio’n rhydd bellach yn Ewrop; ac nid oes llawer yn cael ei gynnig i fusnesau’r sector gwasanaethau.

“Er hynny, mae’r cytundeb hwn yn well na’r trychineb a fyddai wedi digwydd gyda dim cytundeb. Mae’n golygu ein bod wedi cadw ein perthynas â’n partneriaid masnachu agosaf a phwysicaf. Mae’n darparu llwyfan ar gyfer trafod gwell trefniadau yn y dyfodol.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’i holl bartneriaid, busnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru i helpu a pharatoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio a’r berthynas newydd gyda’r UE.”

“Nid yw’n gytundeb dda”

Mewn neges ar Trydar dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Pontio Ewropeaidd:

“Mae’r cytundeb yma a gafodd ei wneud yn yr unfed awr ar ddeg yn osgoi’r drychineb o adael heb gytundeb masnach, ond nid yw’n gytundeb da, nid dyma’r dyfodol oedden ni eisiau ar gyfer Cymru, a nid dyma’r un a gafodd ei addo i Gymru, dim bwys pa ongl fydd yn cael ei roi arno.”

Ceidwadwyr yn “torri eu haddewidion”

Mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud ar Trydar:

“Dyma gytundeb sydd yn bell o’r hyn a addawyd i Gymru.

“Addawyd dim ceiniog yn llai.

“Addawyd y byddai ein ffermwyr yn gallu gwerthu eu cynnyrch i weddill Ewrop fel o’r blaen.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi torri eu haddewidion dros Gymru,” meddai.

Diwedd ar flynyddoedd o drafod

Ar y llaw arall, wrth gwrs, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi croesawu’r cytundeb.

“Mae’r newyddion prynhawn ‘ma yn rhoi diwedd ar flynyddoedd o drafodaethau ynglŷn â dyfodol y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd, ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi llwyddo i ddod i gytundeb.

“Yn hanfodol, mae hyn yn golygu y gallwn ychwanegu’r Undeb Ewropeaidd at y rhestr o 60 cytundeb fasnach sydd gennym ni gyda phartneriaid o amgylch y byd. Daw hyn wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd, gan ganiatáu i’r Deyrnas Unedig ddechrau siwrne newydd fel cenedl annibynnol gref.

“Does gen i ddim amheuon, er gwaethaf heriau Covid-19, ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ond yn arbennig yng Nghymru, y bydd pobol a busnesau yn manteisio ar y cyfleoedd mae’r cytundebau hyn yn eu cynnig, gan helpu busnesau Cymru i dyfu, a thanio economi Cymru,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Adalw’r Senedd

Mae’r Llywydd wedi cytuno i gais gan y Prif Weinidog i adalw’r Senedd yr wythnos nesaf i drafod goblygiadau Cytundeb Fasnach a Chydweithrediad DU-UE.

Bydd y Senedd yn cwrdd ar gyfer Cyfarfod Llawn rhithwir fore Mercher 30 Rhagfyr pryd y bydd Aelodau hefyd yn trafod datganiad yn ymwneud â Covid-19.

Brexit: Cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd

Mae’n dilyn misoedd o drafodaethau a bargeinio munud olaf

Rhyddhad i’r diwydiant amaeth yng Nghymru wrth i gytundeb Brexit osgoi “trychineb”

Ond rhwystrau newydd am “ychwanegu at y gost o wneud busnes” medd NFU Cymru