Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau’r pandemig yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Er mwyn cefnogi busnesau, mae Llywodraeth Cymru’n ymestyn y moratoriwm ar fforffedu lesoedd am beidio â thalu rhent tan Fawrth 25, 2022.
Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar Fedi 30 eleni.
Er bod y mesur yn sicrhau bod landlordiaid safleoedd masnachol perthnasol yn cael eu hatal rhag fforffedu lesoedd am beidio talu rhent, dylai tenantiaid barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd, meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.
Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn para drwy gydol y flwyddyn ariannol hon hefyd.
Mae’r cam hwnnw’n cael ei gefnogi gan £380m er mwyn helpu i roi amser i tua 70,000 o fusnesau anadlu.
‘Cefnogi cwmnïau’
“Drwy gydol pandemig y Coronafeirws, rydym wedi defnyddio pob sbardun posibl i gefnogi busnesau a’u gweithwyr yn ystod cyfnod hynod ofidus,” meddai Vaughan Gething.
“Bydd ymestyn y mesurau hyn i atal busnesau rhag fforffedu eu lesoedd am beidio â thalu rhent, a fydd yn diogelu busnesau rhag cael eu troi allan, yn helpu i ddiogelu swyddi a bywoliaeth i bobol ledled Cymru.
“Bydd hefyd yn rhoi’r un lefelau o amddiffyniad yn hyn o beth i fusnesau Cymru â’r rhai yn Lloegr, a bydd yn helpu i adfer busnesau Cymru wrth i’r economi wella.
“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i gefnogi cwmnïau o Gymru wrth i ni roi hwb i adferiad cryf yng Nghymru ar ôl y pandemig.”
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ymdrin ag ôl-ddylediant rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig.
Ychwanega Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n ystyried pa fesurau pellach sydd angen eu rhoi ar waith, os o gwbl, er mwyn mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent masnachol ar ôl i’r moratoriwm ddod i ben.
Maen nhw’n disgwyl y bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ystyried a datblygu eu cynigion.