Hyd yma, mae’r haf wedi bod tua un radd yn gynhesach na’r cyfartaledd, gan ei wneud yn un o’r 10 haf cynhesaf ar gofnod.

Mae tymereddau uchel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn enwedig, wedi helpu i wneud yr haf hwn yn un o’r poethaf, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Er na fydd ffigurau terfynol yn cael eu cyhoeddi am rai diwrnodau eto – fe’u cyhoeddir ar ddechrau mis Medi – mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud mewn datganiad fod tymheredd cymedrig y Deyrnas Unedig ar gyfer yr haf tua un gradd yn uwch na’r cyfartaledd, sef 15.4C (59.7F).

Hyd yma, mae Gogledd Iwerddon wedi cael un o’i hafau cynhesaf erioed gyda thymheredd cymedrig o 15.0C (59F).

A dywedodd y Swyddfa Dywydd mai ffigur yr Alban oedd 13.8C (56.84F), sydd yn cyfri fel un “arbennig o gynnes” i’r wlad.

Yng nghanol tywydd poeth y mis diwethaf, torrodd Gogledd Iwerddon ei record o ran tymheredd gyda thymheredd uchaf o 31.3C (88.3F).

Ond nid oes sicrwydd y bydd yr haf hwn yn y 10 uchaf erioed – gallai fod yn agos o hyd.

Mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd hyd at ddydd Llun – diwrnod olaf-ond-un yr haf – yn nodi: “Cymylog yn aml, oer, gyda rhywfaint o law ysgafn neu gawodydd ar gyfer ardaloedd arfordirol gogleddol a dwyreiniol. Mewn mannau eraill, sych gyda chyfnodau heulog. Cynnes yn y gorllewin.”

Roedd ardaloedd y Gorllewin, yn enwedig gorllewin yr Alban, hefyd wedi cael llawer llai o law na’r cyfartaledd, gyda’r Alban hyd yma yn cofnodi dim ond 62% o’r glaw cyfartalog ar gyfer y tymor, sef 188.1mm.

Mae Cymru wedi cael 66% o’i glaw cyfartalog – sef 189.5mm.

Ar y llaw arall, mae hi wedi bod yn haf gwlyb i Lundain, gyda chyfartaledd o 220.2mm o law – 48% yn fwy na’r cyfartaledd hirdymor, er nad yw’n record.

Dywedodd Dr Mark McCarthy o’r Ganolfan Genedlaethol Gwybodaeth yr Hinsawdd: “Yn amlwg mae amser o hyd cyn i’r mis a’r tymor ddod i ben, ond mae’r haf hyd yma yn sicr yn edrych yn sychach ac yn gynhesach na’r cyfartaledd.

“Mae hynny er gwaethaf rhai o’r amodau gwlyb, diflas rydyn ni wedi’u gweld yn y de-ddwyrain yn arbennig.

“Mae rhai o’r llifogydd a welwyd yn Llundain ym mis Gorffennaf wedi gweld rhai gorsafoedd unigol yn adrodd bron ddwywaith y glaw arferol yn yr haf ond mae’r gogledd a’r gorllewin wedi profi digon o heulwen drwy fis Mehefin a mis Gorffennaf.”