Mae Siân Gwenllian, dirprwy arweinydd a llefarydd plant a phobol ifanc Plaid Cymru, yn galw am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru am eu cynllun brechu Covid-19.

Mae hi’n awyddus i gael gwybod mwy am sut y byddai trydydd dos posibl yn cael ei gyflwyno.

Ynghyd â hynny, mae’r llefarydd ar ran plant a phobol ifanc hefyd yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno’r brechlynnau i bobol ifanc.

Mae ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod ychydig dros hanner y bobol ifanc 16 ac 17 oed wedi cael y dos cyntaf, a 10% wedi cael y ddau.

‘Didwyll’

Daw’r alwad yn dilyn adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o gyfyngiadau Covid-19.

Does dim disgwyl iddyn nhw wneud newidiadau pellach.

“Drwy’r pandemig rydym wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu da a chlir gan Lywodraeth Cymru,” meddai Siân Gwenllian.

“Rŵan, ar adeg pan fo achosion ar gynnydd eto, mae’n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru ddidwyll â’r hyn y mae’r data’n ei ddatgelu – yn benodol ar sut mae’r rhaglen frechu wedi effeithio ar nifer y bobol sydd angen triniaeth ysbyty o Covid.

“Mae pobol hefyd yn awyddus i weld a yw’r llywodraeth wedi gwneud cynlluniau ar gyfer trydydd dos o frechlynnau – gyda sôn y gallai imiwnedd ostwng dros amser, mae’n bwysig bod y llywodraeth yn gallu ein sicrhau bod ganddynt gynllun pe bai angen trydydd dos.”

“Monitro lledaeniad”

Bydd ysgolion yn ailagor yng Nghymru o Fedi 1.

“Mae’r cynnydd hwn mewn achosion yn digwydd yr wythnos cyn i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol yn achos pryder ychwanegol,” meddai Siân Gwenllian wedyn.

“Mae angen sicrwydd arnom fod mwy o ffocws ar fonitro lledaeniad y feirws mewn plant a phobol ifanc, yn enwedig gan mai dim ond hanner y bobol ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn.

“Ni allwn ganiatáu i’r feirws ledaenu’n rhydd ymhlith ein plant a’n pobol ifanc, yn enwedig gyda thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg am effaith Covid hir ar y grŵp oedran hwn.”