Mae dau fudiad gwrth-niwclear yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o gefnogi technegol “ffaeledig a hen ffasiwn” wrth benodi’r Americanwr Mike Tynan yn brif weithredwr Cwmni Egino.

Cafodd Cwmni Egino ei greu gan Lywodraeth Cymru i barhau â gweithgaredd niwclear yn Nhrawsfynydd.

Mae PAWB a CADNO wedi datgan eu gwrthwynebiad i’r penodiad hwn, gan ddweud y dylai safle’r hen atomfa yn Nhrawsfynydd fod yn ganolbwynt i ddatblygu technolegau adnewyddadwy a chynaliadwy sy’n cynnig swyddi i bobol yn y tymor byr a chanolig.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi llynedd eu bod nhw’n lansio Cwmni Egino, gydag Ysgrifennydd yr Economi ar y pryd, Ken Skates, yn dweud bod yna “botensial anferth ar gyfer datblygu technolegau adweithyddion niwclear bach yn Nhrawsfynydd”.

Mae’r gwaith datgomisiynu ar y gweill ar y safle yn Nhrawsfynydd ers y 90au, ond yn ôl y Financial Times, bydd Mike Tynan a Cwmni Egino’n archwilio’r manteision economaidd o osod Adweithydd Niwclear Bychan yno.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio’r adweithyddion bach fel rhan o’u hymdrechion i gyrraedd targedau carbon sero-net erbyn 2050.

Rolls-Royce sydd wedi dylunio’r Adweithydd Niwclear Bychan, ac maen nhw’n aros iddo gael ei gymeradwyo yn y Deyrnas Unedig.

Eisoes, mae’r cwmni wedi dweud bod “tebygolrwydd eithaf uchel” y gallen nhw gael eu gosod yn Nhrawsfynydd erbyn dechrau’r 2030au.

Galwadau

Does dim digon o brawf y bydd y dechnoleg wedi ei datblygu’n ddigonol i wneud gwahaniaeth i’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd, meddai PAWB a CADNO.

Mae’r ddau grŵp yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r gorau i gefnogi’r diwydiant niwclear, gan ddweud bod gormod o arian, adnoddau ac arian wedi’i wastraffu’n barod ar niwclear.

Maen nhw’n dweud y dylid diswyddo Mike Tynan, a datgan mai ar gyfer datblygiadau cynaliadwy a gwyrdd fydd gwaith Cwmni Egino yn y dyfodol, ac nad oes croeso i niwclear yn Nhrawsfynydd na Wylfa.

Yn ogystal, dylid penodi Bwrdd newydd heb gysylltiadau â niwclear i Ardaloedd Menter Eryri a Môn, gan adlewyrchu mentrau cymunedol yn eu penodiadau, medden nhw.

Dylid cau Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor hefyd, a sicrhau nad oes gan M-Sparc ar Ynys Môn unrhyw gysylltiad pellach â’r diwydiant gan benodi cyfarwyddwr newydd i adlewyrchu hynny.

Maen nhw hefyd yn nodi y dylid Adolygu Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn; Cynllun Twf Gogledd Cymru; a Chymru’r Dyfodol gan dynnu pob elfen niwclear ohonyn nhw a rhoi’r adnoddau i gefnogi diwydiannau cynaliadwy.

“Ffaeledig a hen ffasiwn”

“Drwy benodi Mr Tynan, cyn-brif weithredwr cwmni Westinghouse UK, rhan o’r cwmni niwclear dan berchnogaeth Toshiba a aeth i’r wal yn 2017, mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cefnogi technoleg ffaeledig a hen ffasiwn,” meddai PAWB a CADNO.

“Unwaith eto, cawn weld codi gobeithion lleol am waith, heb fawr ddim addewidion o sylwedd. Gwelwn drachefn y ffydd ddiysgog mewn gallu rhywun o’r tu allan i ddiwallu ein hanghenion. Ac fel y gwelwyd droeon, mae elît y diwydiant niwclear yn sicrhau cyflogau ar draul y werin.

“Beth yw cyflog Mr Tynan, tybed? Faint o adnoddau y mae ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i Cwmni Egino? Faint o swyddi fydd yna?  Faint ohonynt i bobl leol?

“Pam mae Llywodraeth Cymru yn fodlon croesawu cwmni Rolls-Royce i safle Trawsfynydd, ac o bosib y Wylfa, pan mae’r cwmni hwnnw yn brolio fod datblygu Adweithyddion Niwclear Bychan (sydd ddim mor fychan, gyda llaw) o fantais i allu Prydain i gynnal arfau niwclear?

“Nid oes digon o brawf y bydd y dechnoleg wedi ei datblygu yn ddigonol i wneud gwahaniaeth yn y frwydr argyfyngus i ymladd newid hinsawdd mewn pryd. Yn ogystal mae adnoddau cyhoeddus prin sy’n cefnogi niwclear yn golygu nad ydi’r adnoddau hynny ar gael i dechnolegau gwirioneddol wyrdd a chynaliadwy.

“Gyda llaw, mae digon o dystiolaeth y byddai’n fwy addas ymchwilio i eisotopiau meddygol yn y dinasoedd lle y cawn nhw eu defnyddio yn yr ysbytai arbenigol – rhyw abwyd i wneud ynni niwclear yn fwy derbyniol yw’r sgwarnog yma,” ychwanegodd y ddau grŵp.

“Ymddengys fod Llywodraeth Cymru yn hollol sinigaidd wrth honni fod Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyfrif. Gwell ganddynt groesawu diwydiant cyfalafol efo cyswllt amlwg efo’r diwydiant arfau niwclear.

“Newid hinsawdd, diffyg cartrefi, tlodi, anghyfartaledd – dyma broblemau dyrys ein hoes.

“Nid yw’r obsesiwn niwclear yn gwneud dim oll i ddatrys y problemau hyn; mewn gwirionedd mae’n ychwanegu atynt.”