Mae Mark Drakeford yn annog pobol yng Nghymru i gael eu brechu a pharhau i gymryd camau i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion Covid-19.

Daw hyn wrth i Brif Weinidog Cymru gadarnhau na fydd newidiadau sylweddol i’r rheolau Covid-19 yn ystod y cylch diweddaraf hwn o 21 diwrnod.

Mae’n annog pobol i barhau i gymryd rhagofalon i amddiffyn eu hunain a phawb arall ac i atal ymlediad y feirws.

Mae nifer yr achosion yn parhau i godi, ac yn gynharach yr wythnos hon, aeth y gyfradd achosion dros 320 achos i bob 100,000 o bobol.

Rheolau presennol

Dair wythnos yn ôl, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero, sy’n golygu nad oes cyfyngiadau cyfreithiol ar gwrdd â phobol.

Galluogodd hyn i bob busnes agor, ond gan gadw amddiffyniadau cyfreithiol mewn lle.

Mae’n orfodol gwisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus, ac mae’n rhaid i bawb barhau i hunanynysu os oes ganddyn nhw symptomau Covid-19 neu os ydyn nhw’n cael prawf positif.

Rhaid i fusnesau gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws hefyd.

Mae mân newidiadau yn cael eu gwneud er mwyn symleiddio ac egluro’r rheolau sy’n bod eisoes, gan gynnwys nodi nad oes gofyniad cyfreithiol ar bobol sy’n mynd i briodas neu bartneriaeth sifil wisgo gorchudd wyneb, yn unol â’r eithriad sy’n berthnasol i dderbyniadau priodas.

Fe fydd yr adolygiad nesaf ar Fedi 16, a bydd yr achos dros yr angen i ddefnyddio dogfennau er mwyn cael mynediad i leoliadau risg uchel yn cael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad.

Yn y cyfamser, mae Pàs Covid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gael yng Nghymru, ac mae’n caniatáu i bobol gael tystiolaeth ddigidol o’u statws brechu.

Gall busnesau ddewis defnyddio’r pàs fel amod mynediad.

‘Camau syml’

“Dros y 18 mis diwethaf, mae pobol wedi cydweithio i ddiogelu Cymru. Mae’r angen i wneud hynny heddiw cyn gryfed ag erioed,” meddai Mark Drakeford.

“Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ac mae’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn waeth na’r sefyllfa a oedd yn ein hwynebu dair wythnos yn ôl pan symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau gyda’r rhagofalon, a hynny i sicrhau nad yw’r gwaith da sydd wedi’i wneud hyd yma yn ofer.

“Cael y brechiad yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym o hyd. Os nad ydych wedi manteisio ar y cynnig o frechiad yn barod, rwy’n eich annog yn gryf i wneud hynny, gan ymuno â thros 2.1m o bobol yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu’n llawn er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill.

“Mae yna gamau syml y gallwn eu cymryd bob dydd i gadw pawb yn ddiogel; cwrdd ag eraill yn yr awyr agored yn hytrach na dan do neu gadw pellter wrth bobol eraill y tu allan.

“Os ydych yng nghwmni pobol dan do, yna gall agor ffenest i adael awyr iach i ddod i mewn olygu bod y feirws yn llai tebygol o ledaenu; rydym yn parhau i ofyn i bobl weithio adref pan fo hynny’n bosibl.

“Bydd camau fel hyn yn helpu i osgoi’r angen am fesurau cryfach.

“Mae’r pandemig yn dal yma yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gael ein brechu a pharhau i gymryd y rhagofalon er mwyn cadw’r feirws dan reolaeth.”

Newidiadau i deithio rhyngwladol

Yn ogystal, mae rhai newidiadau wedi’i gwneud o ran teithio rhyngwladol hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori yn erbyn teithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol, ond gan fod y ffin â Lloegr ar agor, does dim ffordd ymarferol o gael polisi gwahanol.

Yn unol â’r newidiadau yng ngweddill y Deyrnas Unedig, mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cytuno i ychwanegu Montenegro a Gwlad Thai at y rhestr goch.

Bydd Denmarc, Lithwania, y Ffindir, y Swistir a Liechtenstein, ynysoedd Açores a Chanada’n symud i’r rhestr werdd.

Bydd y newidiadau’n dod i rym am 4yb ddydd Llun (Awst 30).