Mae teulu merch ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ger Arberth ddydd Gwener, Awst 20, wedi talu teyrnged iddi.

Bu farw Beca Mai Richards, 23 oed o Langain ger Caerfyrddin, yn yr ysbyty heddiw (dydd Iau, Awst 26), yn dilyn y gwrthdrawiad ym Mhenblewyn.

Mewn teyrnged, mae’r teulu wedi cyfeirio at eu balchder wedi i Beca, “sydd o hyd wedi gofalu am eraill”, roi organau i helpu a rhoi bywyd gwell i eraill.

“Rydym wedi ein chwalu’n llwyr o golli Beca,” meddai’r teulu.

“Roedd hi’n ferch, chwaer, ffrind ac athrawes llawn cariad a charedigrwydd ac yn un sydd o hyd wedi gofalu dros eraill.

“Rydym yn ymfalchïo fod dymuniad Beca wedi’i wireddu, fel ei chymwynas olaf, i fod yn rhoddwr, er mwyn cynnig bywyd gwell i eraill.

“Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb, yn enwedig yr Uned Gofal Dwys ac Ambiwlans Awyr Cymru, am eu cefnogaeth a gofal dros y dyddiau diwethaf.

“Ein dymuniad nawr yw cael amser i alaru’n breifat.”

Apelio am dystion wedi gwrthdrawiad difrifol ger Arberth

Dynes yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa du a lori gymysgu sment ddydd Gwener (Awst 20)