Mae cyfrifon ariannol yr SNP yn dangos bod cynlluniau ar y gweill i godi arian at refferendwm annibynnol arall y flwyddyn nesaf.

Mae Colin Beattie, trysorydd y blaid, yn cydnabod “pryderon” am ddiffyg tryloywder o safbwynt ymdrechion i godi arian at ymgyrchoedd annibyniaeth sydd wedi codi mwy na £600,000.

Ond mae’n sicrhau’r aelodau y bydd yr holl arian yn cael ei wario ar yr ymgyrch tros annibyniaeth.

Mae’r cyfrifon hefyd yn dangos bod y prif weithredwr Peter Murrell, sy’n briod â’r arweinydd a’r prif weinidog Nicola Sturgeon, yn ennill cyflog blynyddol o £79,750 ers mis Mai eleni.

Roedd nifer aelodau’r blaid wedi cynyddu o 105,393 yn niwedd 2020 i fwy na 119,000 erbyn diwedd Mai eleni.

Helynt am ddiffyg tryloywder

Daw’r cyfan ar ôl i ddau aelod seneddol yr SNP adael Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid, gan ddweud bod diffyg tryloywder yn wendid yn y blaid.

Fis diwethaf, cadarnhaodd Heddlu’r Alban fod ymchwiliad ar y gorwel yn dilyn cwynion am roddion i’r blaid.

Bryd hynny, gwadodd arweinwyr y blaid fod arian oedd wedi’i godi at annibyniaeth yn cael ei symud i rywle arall.

Ers 2017, mae £666,953 wedi’i godi at annibyniaeth, gyda gwariant o £51,760 ar yr incwm yma.

Roedd yr arian ar gyfer sawl apêl yn benodol, meddai’r blaid.

Mae disgwyl i weddill yr arian gael ei wario eleni, ac mae Colin Beattie yn pwysleisio bod angen parhau i godi arian.

Mae Nicola Sturgeon yn awyddus i gynnal refferendwm annibyniaeth arall erbyn diwedd 2023.