Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yr wythnos nesaf ar gynlluniau am sied a fyddai’n cartrefu hyd at 32,000 o ieir.
Mae’r cynlluniau ar gyfer y cyfleuster cynhyrchu wyau yng Nghae Mawr, Llannerch-y-Medd, wedi ennyn cryn wrthwynebiad.
Mae deiseb gan weithredwyr hawliau anifeiliaid yn gwrthwynebu’r cynlluniau wedi cael ei lofnodi 18,000 o weithiau.
Ond cyn cyfarfod o’r pwyllgor, mae adroddiad gan swyddogion cynllunio Cyngor Môn yn argymell y dylid cymeradwyo’r cynlluniau.
Gofynnir i aelodau’r pwyllgor, sydd eisoes wedi ymweld â’r safle, gymeradwyo’r cynlluniau er gwaethaf gwrthwynebiad cyrff fel Cyngor Cymuned Llannerch-y-Medd, sy’n ofni’r effaith amgylcheddol, cynnydd posibl mewn pryderon ynghylch diogelwch traffig a phriffyrdd.
Yn y cyfamser, mae gweithredwyr Peta wedi galw am ddileu’r cynlluniau gan eu galw yn “garchar cywion ieir”.
Yn ôl yr ymgeiswyr, fodd bynnag, byddai’r datblygiad 3,200 metr sgwâr yn creu dwy swydd yn ogystal â chyfnerthu arallgyfeirio’r fferm.
Gan gyfeirio at safonau lles yr RSPCA, ychwanegodd y datganiad dylunio a mynediad: “Bydd gan yr adar fynediad i grwydro’r tir sy’n gorwedd i’r dwyrain a’r gorllewin o’r adeilad arfaethedig, a fydd yn dir pori penodol ar gyfer y fenter.
“Bydd y tir yn cael ei ffensio gan ddefnyddio ffensys trydan i gadw ysglyfaethwyr allan.
“Bydd adar yn cael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd.
“Mae’r adar yn rhydd ac yn cael cyfle bob dydd i adael yr adeilad a chrwydro’r tir dynodedig.
“Bydd yr adar yn gadael yr adeilad gan ddefnyddio tyllau pop sydd wedi’u cynnwys yn nyluniad yr adeilad.”
Mae disgwyl penderfyniad pan fydd pwyllgor cynllunio’r awdurdod yn cyfarfod dydd Mercher (1 Medi).