Mae merch saith oed o Gaerdydd wedi helpu i achub bywyd ei mam a oedd yn cael pwl difrifol o asthma.

Roedd Katherine Holifield yn gyrru adref ar ôl diwrnod yn caiacio bythefnos yn ôl gyda ffrindiau pan aeth hi’n fyr o wynt.

Ar ôl iddi dynnu i mewn i gilfan, fe alwodd hi 999 am ambiwlans, ond roedd hi’n rhy fyr ei hanadl i gael geiriau allan i egluro ei lleoliad.

Fe wnaeth ei merch saith oed, Isla, gymryd y ffôn oddi ar ei mam er mwyn dweud wrth y gwasanaeth ambiwlans i chwilio am gar coch a chaiac ar y to.

Yn dilyn ymdrech Isla, yn ogystal â chymorth technoleg cyfeirio, llwyddodd yr ambiwlans i gyrraedd mewn pryd i achub y fam.

‘Mor bwyllog ac i’r pwynt’

Mae Katherine Holifield wedi dioddef asthma ers yn ifanc, ond doedd hi erioed wedi cael pwl mor ddifrifol â hyn.

“Ro’n ni wedi treulio’r diwrnod yn caiacio yn Nhrefynwy gyda ffrindiau,” meddai.

“O’n i’n teimlo ychydig yn dynn wrth i ni ddod oddi ar y dŵr, ond nes i jyst meddwl bod hynny oherwydd fy mod i wedi bod yn gwneud gweithgaredd anodd.

“Ro’n ni wedi dechrau ar y siwrne adref ond do’n i ddim yn gwella, ond yn mynd yn waeth.

“Gan sylwi mai pwl o asthma oedd e, fe dynnais i mewn i gilfan a chael fy nebuliser allan i geisio helpu.

“Yn y diwedd, do’n i ddim yn gallu siarad o gwbl a gofynnodd Isla, ‘Mam, wyt ti angen i fi ffonio 999?’

“Roedd hi mor bwyllog ac i’r pwynt pan oedd hi’n rhoi gwybodaeth i’r swyddog ar y ffôn.

“Roedd hi’n drist, ond roedd hi mor benderfynol.”

‘Rhywbeth arbennig’

Roedd Katherine Holifield yn ddiolchgar iawn am gymorth y gwasanaeth ambiwlans a’r cymorth a roddon nhw i’w merch pan oedd hi’n dioddef.

Fe roddodd Jason Killens, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, glod i Isla am ei gweithredoedd.

“Wnaeth Isla ddim cynhyrfu o gwbl wrth iddi wynebu amgylchiadau eithriadol,” meddai.

“Fe wnaeth ei gweithredoedd y diwrnod hwnnw helpu ni i ffeindio Katherine mewn amser allweddol a wnaeth fwy na thebyg achub ei bywyd.

“Rydyn ni’n hapus i wybod bod Katherine ac Isla bellach yn cadw’n iawn adref.

“Fe wnaeth Isla rhywbeth arbennig i’w mam gan ddangos pa mor bwysig yw bod yn ymwybodol o sefyllfa.”

Isla a’i mam Katherine