Mae’r diwydiant bwyd a diod yn galw am “visa adferiad Covid-19” am 12 mis i weithwyr tramor.
Daw hyn yn sgil prinder gweithwyr, sy’n achosi anawsterau a chynnydd mewn prisiau.
Rhybuddiodd adroddiad a anfonwyd at y Llywodraeth ar ran 12 sefydliad fod y pandemig a’r polisi mewnfudo ar ôl Brexit yn cael effaith negyddol ar y broses o recriwtio gweithwyr.
Dywedwyd wrth y Gweinidogion fod tua hanner miliwn o swyddi gwag mewn busnesau bwyd a diod.
Dywedodd prif weithredwr y Ffederasiwn Bwyd a Diod, Ian Wright bod yr adroddiad yn nodi’n fanwl iawn y prinder llafur a sgiliau sy’n wynebu’r diwydiant cyflenwi bwyd ar hyn o bryd, gan ychwanegu: “Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn gwbl glir bod prinder llafur heddiw yn cael ei achosi gan lu o ffactorau strwythurol y tu hwnt i’r rhai a grëwyd gan Covid-19 a diwedd cyfnod pontio Brexit.
“Heb weithredu’n gyflym bydd yr anawsterau o ran llafur yn parhau.
“Y canlyniadau annymunol wedyn fydd prinder a llai o ddewis i ddefnyddwyr, prisiau uwch a llai o dwf ar draws y gadwyn fwyd domestig.”
Ychwanegodd Nick Allen, prif weithredwr Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain: “Mae’r argyfwng llafur presennol wedi effeithio’n ddifrifol ar y diwydiant cig, sy’n arwain fwyfwy at brinder mewn siopau.”