Mae lluoedd arfog America wedi defnyddio drôn i ladd aelod o garfan Isis-K o’r Wladwriaeth Islamaidd yn Afghanistan.

Roedd hyn mewn ymateb i’r gyflafan ym maes awyr Kabul dydd Iau pryd y cafodd dros 100 o bobl eu lladd. Roedd y rhain yn cynnwys 13 o Americanwyr ac o leiaf dri o Bydain.

Yn y cyfamser, parhau mae’r rhuthr i adael ym maes awyr Kabul gyda disgwyl i’r rhan fwyaf o luoedd America sydd ar ôl yn y wlad adael yn ystod yr oriau nesaf.

Er bod gweithredu cyflym America yn dangos effeithiolrwydd ei gallu i dargedu eithafwyr, mae’n amheus a fydd hyn yn dal yn wir yn Afghanistan wrth i’r Taliban gipio grym. Yr ofnau yw y bydd y wlad yn noddfa i eithafwyr peryglus, ac y bydd yn fwy anodd i America eu targedu pan fydd hi heb ysbïwyr na phresenoldeb milwrol yn y wlad.

Cafodd yr ymosodiad ar y terfysgwr yn nhalaith Nangahar ei orchymyn gan ysgrifennydd amddiffyn America, Lloyd Austin, gydag awdurdod yr arlywydd Joe Biden.

Mae’r arlywydd wedi cael ei rybuddio hefyd i fod yn barod am ymosodiad terfysgol arall yn Kabul yn y dyddiau nesaf.