Mae’r dyn a lofruddiodd y seneddwr Robert F Kennedy yn Los Angeles yn 1968 am gael ei ryddhau o’r carchar.
Mae Sirhan Sirhan yn 77 oed ac wedi bod yn y carchar am 53 mlynedd.
Daw’r penderfyniad i ganiatâu parôl iddo ar ôl i ddau o feibion Robert Kennedy gefnogi ei ryddhau, er bod chwech o’i blant eraill wedi gwrthwynebu hynny.
Gwrthodwyd parôl i Sirhan Sirhan dros y 15 mlynedd ddiwethaf oherwydd bod Bwrdd Parôl California o’r farn nad oedd yn dangos edifeiriwch digonol na dealltwriaeth o anferthedd ei drosedd.
Penderfynodd panel ddoe (dydd Gwener 27 Awst) fodd bynnag ei fod yn ymddangos fel pe bai’n ddyn gwahanol, nad oedd yn peri bygythiad i gymdeithas.
Fe fydd y dyfarniad yn cael ei adolygu dros y 120 diwrnod nesaf, ac wedyn bydd llywodraethwr California yn cael 30 diwrnod i benderfynu ei ganiatáu, ei wrthdroi neu ei addasu.
Roedd Robert F Kennedy yn un o seneddwyr Efrog Newydd yn Senedd America ac yn frawd i’r arlywydd John F Kennedy, a gafodd ei lofruddio yn 1963.
Roedd RFK yn ceisio enwebiad y Democrataid ar gyfer etholiad arlywyddol 1968 pan gafodd ei saethu yn Los Angeles funudau ar ôl araith yn dathlu ei lwyddiant yn etholiad talaith California ym mis Mehefin y flwyddyn honno.
Cafodd Sirhan Sirhan ei ddedfrydu i farwolaeth ar ôl cael ei gollfarnu, ond cafodd y ddedfryd ei throi’n un o garchar am oes ar ôl o oruchaf lys California wahardd y gosb eithaf am gyfnod byr yn 1§972.