Mae pobl sydd wedi eu heintio ag amrywiolyn Delta o Covid-19 ddwywaith yn fwy tebygol o fod angen triniaeth ysbyty na’r rheini a gafodd eu heintio â’r straen Alpha.
Dyna yw casgliad astudiaeth o fwy na 43,000 o achosion Covid-19 yn Lloegr rhwng misoedd Mawrth a Mai eleni, sydd wedi ei chyhoeddi yn y cylchgrawn meddygol The Lancet Infectious Diseases.
Roedd bron i dri chwarter yr achosion coronafeirws yn bobl heb gael eu brechu, gyda dim ond 1.8% wedi derbyn y ddau frechiad.
Meddai Dr Gavin Dabrera, un o brif awduron yr astudiaeth, ac epidemiolegydd gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr:
“Mae’r astudiaeth yn cadarnhau bod pobl sydd wedi eu heintio â Delta yn sylweddol fwy tebygol o fod angen mynd i’r ysbyty na’r rheini ag Alpha, er bod y mwyafrif o achosion yn y dadansoddiad yn bobl heb eu brechu.
“Fe wyddon ni eisoes fod brechu yn cynnig amddiffyniad rhagorol yn erbyn Delta, a gan fod yr amrywiolyn hwn yn cyfrif am dros 98% o achosion Covid-19 Prydain, mae’n hanfodol fod y rheini sydd heb dderbyn dau frechiad yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.”
Dywed yr awduron nad yw’n bosibl llunio casgliadau ynghylch risg ymysg y rheini sydd wedi cael eu brechu ac sy’n dal i ddatblygu symptomau, ond fod astudiaethau wedi dangos cysylliad rhwng brechu a rhwytro salwch difrifol o’r coronafeirwch.
Mae data llywodraeth Prydain yn dangos bod 88.2% o bobl 16 oed a throsedd wedi cael o leiaf un brechiad, gyda chyfanswm o 90.2 miliwn o frechiadau wedi eu rhoi.
Meddai Dr Anne Presanis o Brifysgol Rhydychen, un arall o brif awduron yr astudiaeth:
“Mae ein dadansoddiad yn dangos y bydd, yn absenoldeb brechiadau, unrhyw achosion Delta yn rhoi mwy o faich ar ofal iechyd nag epidemig Alpha.
“Mae cael eu brechu’n llawn yn hanfodol er mwyn lleihau risg unigolyn o heintiad symptomatig Delta yn y lle cyntaf, a hefyd o leihau risg claf Delta o salwch difrifol a gorfod mynd i’r ysbyty.”