Daeth cadarnhad swyddogol mai’r Frenhines fydd yn cyhoeddi agoriad swyddogol chweched sesiwn y Senedd mewn seremoni arbennig ddydd Iau 14 Hydref.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau creadigol gan berfformwyr o bobl cwr o Gymru, gydsa rhai perfformiadau yn digwydd yn fyw ac eraill wedi’u recordio ymlaen llaw.

Yn ogystal â’r Frenhines, bydd Llywydd y Senedd, Elin Jones, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn annerch y Senedd yn yr agoriad.

Bydd y Byrllysg seremonïol yn cael ei gario i’r Senedd a’i osod yn y Siambr er mwyn dynodi agoriad swyddogol y chweched Senedd.

Er i’r etholiad gael ei gynnal ym mis Mai, cafodd dyddiad yr agoriad swyddogol eleni oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws.

Dywed y Senedd y bydd rhagor o fanylion am y trefiniadau yn cael eu cyhoeddi yn y man.