Mae pencadlys y DVLA yn Abertawe yn wynebu bygythiad o ragor o weithredu diwydiannol wrth i bryderon ynghylch iechyd a diogelwch staff barhau.

Ar gychwyn 20fed wythnos yr anghydfod ynghylch mesurau digonol i amddiffyn staff rhag Covid-19, mae’r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn holi barn ei aelodau am ddwysáu’r gweithredu.

Mae ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka, wedi ysgrifennu at y DVLA yn eu rhybuddio fod y gweithwyr mor benderfynol ag erioed, ac na ddylen nhw gael eu beio am oedi i wasanaethau’r DVLA o ganlyniad i’r anghydfod.

“Nid ar ein haelodau sy’n pryderu am eu diogelwch mae’r bai ond ar reolwyr y DVLA a’r Llywodraeth,” meddai.

“Ym mis Mehefin, buom mewn trafodaethau gyda rheolwyr y DVLA i sicrhau setliad teg a fyddai’n dod â’r anghydfod i ben.”

‘Gweinidogion yn ymyrryd’

“Fe gawson ni wybod wedyn bod y cytundeb hwn wedi cael ei wrthod gan y Llywodraeth ar yr unfed awr ar ddeg.

“Ddylai cytundebau ddim gael  eu gwrthod gan Weinidogion y Llywodraeth heb gyfiawnhad nac esboniad. Mae’n amlwg fod y penderfyniad hwn i roi feto ar y cytundeb wedi gwaethygu’r oedi.”

Dywedodd fod y cynnydd parhaus mewn cyfraddau heintio ledled Cymru yn dwysáu’r sefyllfa.

“Mae cyfraddau achosion Covid yng Nghymru bellach ar eu huchaf ers yr ail frig ym mis Ionawr, ac Abertawe sydd â’r cyfraddau heintio uchaf yn y wlad i gyd, gyda 500 i bob 100,000 o bobl.

“Mae’r cyd-destun hwn yn bwysig oherwydd mae’r anghydfod hwn ynghylch hawl sylfaenol: sef yr hawl i staff fod yn ddiogelu yn eu lle gwaith.

“Ar ôl pobeth maen nhw wedi bod trwyddo, mae’n haelodau’n dal yn benderfynol i sicrhau’r setliad maen nhw’n ei haeddu.”

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA fod diogelwch eu staff yn “holl bwysig” iddyn nhw.

“Mae’r staff sy’n gallu cyflawni eu rôl o gartref yn parhau i wneud hynny, tra bod y rhai na all wneud hynny yn gweithio o’r safle,” meddai.

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi cydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd ag Adran Iechyd yr Amgylchedd Abertawe a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, sydd wedi cynnal ymweliadau safle ac arolygiadau ac sydd wedi cadarnhau dros ar ôl tro lefel uchel o gydymffurfio â mesurau rheoli.”

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Ôl-groniad “trychinebus” yng ngwaith y DVLA gan fod staff yn cael eu rhoi “mewn perygl”

Mae pryderon wedi codi gan yrwyr ceir a lorïau, a rhai sy’n dysgu gyrru, ynghylch cyfnod hir o oedi wrth dderbyn dogfennau gan y DVLA

 

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Cannoedd o weithwyr y DVLA yn mynd ar streic dros ddiogelwch Covid

Undeb PCS yn cyhuddo rheolwyr y DVLA o gyflogi contractwyr er mwyn gwneud gwaith yr aelodau sydd ar streic