Mae rhybudd y gall Corwynt Ida ddod â gwyntoedd o hyd at 140 milltir yr awyr i dalaith Louisiana yn America yfory, dydd Sul 29 Awst.

Mae pobl yn ffoi o’u cartrefi mewn dinasoedd ar hyd a lled y dalaith gan gynnwys New Orleans. Yno, mae’r maer wedi gorfodi pobl i adael eu tai mewn ardaloedd na chaiff eu diogelu gan argloddiau’r ddinas, ac yn annog pobl mewn ardaloedd llai peryglus i adael yn wirfoddol.

Dywed y maer na fyddai’n bosibl gorfodi pawb drwy’r ddinas i adael, gan y byddai hynny’n golygu bod pobl yn cael eu dal mewn tagfeydd traffig.

Mae disgwyl i’r storm gyrraedd y tir ar yr union ddiwrnod yr achosodd Corwynt Katrina y fath lanast 16 mlynedd yn ôl.

Y gwahaniaeth y tro hwn yw bod disgwyl y bydd Corwynt Ida wedi cyrraedd nerth corwynt categori 4 erbyn y bydd yn taro’r lan nos yfory, o gymharu â chategori 3 Corwynt Katrina.

Mae trigolion y ddinas yn cael eu rhybuddio i fod yn barod am doriadau mewn cyflenwad pwer a thrigolion hŷn yn cael eu hannog i adael, gyda disgwyl i’r gwyntoedd cryfion barhau am tua 10 awr.

Yn y cyfamser, mae Corwynt Nora yn y Môr Tawel ychydig gannoedd o filltiroedd i’r dwyrain yn dynesu at arfordir Mecsico.

Mae disgwyl y bydd y gwyntoedd a’r glaw trwm yn achosi llifogydd a thirlithriadau mewn rhannau helaeth o’r arfordir gogleddol a chanoldirol. Gallai gweddillion y corwynt hwn ddod â glaw i dde-orllewin yr Unol Daleithiau hefyd yr wythnos nesaf.