Mae miliynau o bobl Afghanistan yn wynebu newyn a thlodi yn ogystal â pheryglon gormesol y Taliban wrth i gyrchoedd achub gwledydd y gorllewin ddirwyn i ben.
Mae’r wlad yn dioddef sychder cynyddol sy’n bygwth bywoliaeth saith miliwn o bobl, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 14 miliwn – traean o’r boblogaeth – yn brin o fwyd.
Mae ciwiau o gannoedd o bobl yn ceisio cael arian allan o fanciau yn Kabul, a gweision sifil yn protestio nad ydyn nhw wedi cael eu talu ers rhai misoedd.
Yn y maes awyr, mae miloedd yn dal i ymgynnull yn y gobaith o ffoi o’r wlad, er gwaethaf ymosodiad hunanfomwyr ddydd Iau a laddodd 169 o Afghaniaid a 13 o aelodau o luoedd arfog America.
Gydag America wedi ymrwymo i adael y wlad erbyn dydd Mawrth (31 Awst), mae amryw o wledydd y gorllewin eisoes wedi cwblhau eu hymdrechion achub.
Mae Llu Awyr Prydain wedi hedfan eu hawyren olaf ar gyfer sifiliaid allan o Kabul, gyda dim ond y lluoedd arfog yn dal ar ôl i’w cludo adref.
Yn ôl y Cadfridog Syr Nick Carter, Pennaeth Staff Amddiffyn, mae ymdrech y Llywodraeth i gludo dinasyddion Prydain ac Afghaniaid cymwys o faes awyr Kabul mynd “cystal ag y gallai yn yr amgylchiadau”.
Mae tua 14,500 wedi cael eu cludo oddi yno i Brydain dros y pythefnos ddiwethaf.
“Dydyn ni ddim wedi gallu dod â phawb allan ac mae hynny wedi bod yn dorcalonnus, ac mae rhai penderfyniadau anodd iawn y bu’n rhaid eu gwneud,” meddai.
Yn ôl llywodraeth America, mae mwy na 100,000 o bobl wedi cael eu cludo’n ddiogel trwy faes awyr Kabul, ond cynyddu mae’r pryder y bydd miloedd o rai eraill wedi methu â gadael erbyn dydd Mawrth.