Mae aelodau’r Blaid Werdd yn yr Alban wedi cefnogi cytundeb a fydd yn arwain at y blaid yn rhannu grym gyda’r SNP yn Llywodraeth yr Alban.

Er bod rhai pleidleisiau ar ôl i’w cyfrif, mae’n ymddangos fod 88.5% o’r aelodau wedi pleidleisio o blaid, 10.4% yn erbyn ac 1.1% wedi ymatal.

O dan y cytundeb, fe fydd dau gyd-arweinydd y blaid, Patrick Harvie a Lorna Slater, yn dod yn weinidogion yn y Llywodraeth, a bydd yn ofynnol i’r Gwyrddion gefnogi Llywodraeth yr Alban meen pleidleisiau o hyder a chyllidebau blynyddol.

Bydd y ddwy blaid yn cydweithio ar feysydd polisi penodol, gan gynnwys newid hinsawdd, a cheisio pleidlais arall ar annibyniaeth i’r Alban cyn diwedd 2023 os bydd bygythiad coronafeirws wedi cilio.

Bydd anghytuno cyhoeddus rhwng y pleidiau yn cael ei gyfyngu i faterion penodol fel polisi hedfan, porthladdoedd gwyrdd, cymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau sy’n ymwneud â’r sectorau awyrofod ac amddiffyn, a’r egwyddorion economaidd sy’n ymwneud â thwf cynaliadwy a thwf cynhwysol.

“Mae’n anhygoel o gyffrous bod ar drothwy llywodraeth am y tro cyntaf yn yr Alban, nid dim ond yn yr Alban ond mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig,” meddai Patrick Harvie.

Mae cytundeb o’r fath wedi bod yn angenrheidiol ers i’r SNP fethu o un sedd ag ennill mwyafrif lwyr dros yr holl bleidiau yn yr etholiad ym mis Mai.