Wrth i’r Mark Drakeford ddod o dan bwysau cynyddol i gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, mae wedi awgrymu am y tro cyntaf y gallai ystyried gwneud hynny o dan amgylchiadau penodol.

Mewn llythyr ato ddydd Mawrth, pwysodd Arweinydd yr Wrthblaid, Andrew RT Davies, arno i gomisiynu ymchwiliad o’r fath o dan arweiniad barnwr, a hynny ar frys. Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am ymchwiliad, a chyhoeddodd Nicola Sturgeon y bydd un yn cael ei gynnal yn yr Alban.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae hynny’n golygu mai Cymru fydd “yr unig ran o dir mawr Prydain heb fod ei lywodraeth yn destun craffu”.

Mewn ateb at Andrew RT Davies, mae Mark Drakeford yn gwrthod honiad o’r fath.

“Dw i’n glir y dylai’r ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig – a fydd yn rhoi sylw i weithredoedd pob un o’r pedair gwlad – archwilio’r amgylchiadau a’r penderfynu yma ac adroddiad gyda phenodau/sylwadau penodol ar Gymru,” meddai.

“Bydd y dull hwn, os caiff ei reoli’n iawn, yn rhoi’r adroddiad llawnaf a mwyaf ystyrlon o’r pandemig fel y’i profwyd yng Nghymru.”

Er hynny, wrth ddweud y bydd yn ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y bydd yr ymchwiliad yn un cynhwysfawr, mae’n ychwanegu:

“Os bydd amodau manwl dull Llywodraeth Prydain yn annigonol, yna byddwn, wrth gwrs, yn cadw’r hawl i ailystyried.”

Mae Andrew RT Davies wedi beirniadu ei ymateb.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn awyddus drwy’r pandemig i bwysleisio mai ef a’i weinidogion sy’n gyfrifol am benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai. “Eto does arno ddim eisiau’r atebolrwydd sy’n dod gyda grym.

“Ni ddylai’r defnydd mwyaf helaeth o bwerau datganoledig a gafodd eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru gael eu cuddio yng nghysgod ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.”