Mae Aelodau Seneddol wedi clywed fod ôl-groniad “trychinebus” yng ngwaith y DVLA yn prosesu trwyddedau gyrru yn sgil penderfyniadau gan reolwyr sy’n “rhoi pobol mewn perygl”.
Yn ôl Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol undeb PCS sy’n cynrychioli gweithwyr canolfan drwyddedu’r DVLA yn Abertawe, mae cytundeb i wella amodau gwaith wedi’i thynnu’n ôl “heb unrhyw esboniad”.
Mae 643 achos o Covid-19 wedi’u cofnodi ar y safle, gan gynnwys un farwolaeth, meddai wrth Bwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth San Steffan.
“Mae’r DVLA wedi cael y clwstwr Covid mwyaf mewn unrhyw weithle yn y Deyrnas Unedig,” meddai Mark Serwotka.
“Daeth yn sgil canllawiau canolog Swyddfa’r Cabinet ar gyfer ymdrin â phandemig Covid.
“Maen nhw wedi cymryd penderfyniadau rheoli rydyn ni’n credu sydd wedi rhoi pobol mewn perygl.”
Oedi
Mae pryderon wedi codi gan yrwyr ceir a lorïau, a rhai sy’n dysgu gyrru, ynghylch cyfnod hir o oedi wrth dderbyn dogfennau gan y DVLA.
Yn ystod cwestiwn yn San Steffan ar ddechrau mis Gorffennaf, datgelwyd ei bod hi’n cymryd rhwng chwech a deng wythnos i bobol dderbyn dogfennau yn sgil rheolau ymbellhau cymdeithasol ar y safle, a streiciau.
Mae aelodau PCS wedi lansio cyfres o streiciau fel rhan o’r ymgyrch er mwyn gosod rhagor o fesurau diogelwch, gan gynnwys lleihau nifer y staff sy’n gorfod gweithio ar y safle.
Mae’r undeb wedi trefnu gweithredu pellach hefyd.
“Mae’r stad drychinebus sydd ar yr ôl-groniad yn y DVLA yn Abertawe yn tarddu, yn bennaf, o’r ddadl ddiwydiannol sy’n bodoli rhwng y gweithlu a rheolwyr y DVLA,” ychwanegodd Mark Serwotka.