Dydd Gwener, 27 Awst

Caernarfon 0-2 Y Drenewydd

Cafodd cyn-amddiffynnwr Cymru, Steve Evans ei anfon oddi ar y cae wrth i Gaernarfon golli gartref yn erbyn y Drenewydd.

Cafodd Evans, 42, y cerdyn coch 12 munud cyn hanner amser am dacl flêr ar Lifumpa Mwandwe.

Roedd tîm Huw Griffiths wedi gobeithio dial 13 wythnos ers i’r Drenewydd eu trechu yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r tymor diwethaf.

Ac roedd angen buddugoliaeth ar y Drenewydd ar ôl cymryd un pwynt o’u dwy gêm gyntaf.

Rhoddodd ergyd Jordan Evans dîm Chris Hughes ar y blaen, cyn i Aaron Williams sgorio ei drydedd gôl mewn tair gêm i sicrhau buddugoliaeth gyntaf y Drenewydd y tymor hwn.

Dydd Sadwrn, 28 Awst

Y Bala 0-0 Met Caerdydd

Sicrhaodd Met Caerdydd bwynt anodd ym Maes Tegid wrth i’r Bala fethu â sgorio am yr ail gêm yn olynol.

Cadarnhaodd rheolwr Met Caerdydd, Christian Edwards yn gynharach yn yr wythnos y bydd yn camu o’r neilltu ar ddiwedd y tymor ar ôl 13 mlynedd wrth y llyw.

Mae’r canlyniad yn gadael Met Caerdydd yn y degfed safle, tra bod y Bala yn seithfed, un lle y tu allan i’r gemau ail gyfle.

Derwyddon Cefn 1-4 Y Barri

Sgoriodd Kayne McLaggon a Clayton Green ddwy gôl wrth i’r Barri ddod o’r tu ôl i guro Derwyddon Cefn.

Mae’r canlyniad yn gadael Derwyddon Cefn ar waelod y tabl, gyda dim un pwynt.

Aeth tîm Niall McGuinness ar y blaen ar ôl hanner awr gyda gôl gan George Harry, cyn i McLaggon unioni’r sgôr wyth munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Green wedi 71 munud i roi’r Barri ar y blaen cyn i McLaggon sgorio ei ail bedwar munud yn ddiweddarach.

Sicrhaodd Green fod y pwyntiau yn dod yn ôl i’r Barri gyda gôl ym munud olaf y gêm.

Y Fflint 1-0 Aberystwyth

Mae dechrau gwych y Fflint i’r tymor yn parhau, wrth iddyn nhw sicrhau eu trydedd buddugoliaeth mewn tair gêm gartref, yn erbyn Aberystwyth.

Roedd hi’n edrych yn debygol mai rhannu’r pwyntiau fyddai’r ddau dîm, cyn i Alex Jones sgorio gyda munud yn weddill.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Fflint yn aros ar frig y tabl, a hynny ar wahaniaeth goliau.

Hwlffordd 0-1 Y Seintiau Newydd

Tîm arall sydd wedi ennill eu tair gêm agoriadol yw’r Seintiau Newydd.

Roedd gôl gan Jordan Williams funud cyn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau.

Bydd tîm Anthony Limbrick yn benderfynol o ennill y teitl y tymor hwn ar ôl colli allan i Cei Connah y ddwy flynedd diwethaf.

Ond mae dechrau ardderchog y Fflint yn awgrymu y gallai fod yno gystadleuydd newydd ar frig y tabl.

Penybont 1-1 Cei Connah

Fe wnaeth y pencampwyr Cei Connah ollwng eu pwyntiau cyntaf o’r tymor wrth iddyn nhw gael eu cyfyngu i gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Penybont.

Sicrhaodd Cei Connah y teitl mewn gêm yn erbyn Penybont ym mis Mai eleni.

Ond y tîm cartref aeth ar y blaen gyda gôl gan Lewis Harling ar ôl 20 munud.

Dyw Cei Connah ddim yn dîm hawdd i’w curo, fodd bynnag, ac fe wnaeth gôl gyntaf Byron Harrison i’r clwb sicrhau pwynt i dîm Andy Morrison.

Doedd safon y perfformiad “ddim ddigon da” yn ôl rheolwr Cei Connah.

Y Tabl