Mae adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gwrthod cynnig o £2.5m gan Fulham am eu capten Matt Grimes.

Ond mae adroddiadau eraill yn awgrymu y gallai’r clwb yn Llundain gyflwyno cynnig newydd o £3m er mwyn sicrhau eu bod nhw’n denu’r chwaraewr canol cae o dde Cymru cyn i’r ffenest drosglwyddo gau nos fory (nos Fawrth, Awst 31).

Byddai colli’r capten yn ergyd i’r Elyrch, sydd wedi cael dechrau siomedig i’r tymor ar ôl colli nifer o chwaraewyr allweddol gan gynnwys Freddie Woodman, Andre Ayew a Marc Guehi, yn ogystal â’u rheolwr Steve Cooper yn fuan cyn dechrau’r tymor.

Mae gan Grimes lai na blwyddyn yn weddill o’i gytundeb yn Stadiwm Swansea.com, sy’n golygu y gallai adael yn rhad ac am ddim ar ddiwedd y tymor oni bai bod yr Elyrch yn derbyn cynnig ariannol amdano cyn hynny.