Mae Wayne Routledge wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i chwarae pêl-droed.

Daw ymddeoliad y blaenwr ac asgellwr 36 oed ar ôl degawd gyda’r Elyrch, lle mae e wedi sgorio 33 o goliau mewn 305 o gemau.

Cafodd ei ddenu i Stadiwm Liberty ar ôl i’r clwb ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, ac fe ddaeth ei gêm gyntaf yng ngêm gynta’r clwb yn yr adran uchaf, sef colled o 4-0 yn erbyn Manchester City.

Daeth ei gôl gyntaf yn erbyn ei hen glwb Aston Villa y mis Ionawr canlynol wrth i’r Elyrch ennill o 2-0 yn Villa Park.

Roedd e hefyd yn aelod o’r tîm enillodd Gwpan Capital One, gan gynorthwyo gôl Nathan Dyer yn y fuddugoliaeth o 5-0 dros Bradford yn Wembley.

Er iddo fe adael y clwb yn 2019, fe ddychwelodd rai misoedd yn ddiweddarach ar gytundeb newydd gan ennill llai o gyflog wrth i Abertawe wynebu trafferthion ariannol ar ôl cwympo i’r Bencampwriaeth.

Llofnododd ei gytundeb olaf flwyddyn yn ôl, ac mae hwnnw newydd ddod i ben.

Daeth ei gêm olaf yn ail gymal rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Barnsley, pan gafodd ei gludo oddi ar y cae ar wastad ei gefn o ganlyniad i anaf i’w goes.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd nad oedd e’n dweud “hwyl fawr” wrth y clwb ond, yn hytrach, “Fe wela i chi nes ymlaen”, gyda’r dyfalu’n parhau y gallai gael cynnig swydd hyfforddi gyda’r Elyrch.

Mae e hefyd wedi chwarae i Gaerdydd, Crystal Palace, Spurs, Portsmouth, Fulham, Aston Villa, QPR a Newcastle, ac fe chwaraeodd e 12 o weithiau i dîm dan 21 Lloegr.