Mae Brennan Johnson yn dweud ei fod e wedi gwneud y dewis cywir wrth benderfynu cynrychioli Cymru ac nid Lloegr.

Daeth ei dad David yn agos at chwarae dros Gymru ddau ddegawd yn ôl cyn i’r rheolau cymhwyso newid.

Mae Brennan Johnson eisoes wedi ennill dau gap fel eilydd yn y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau a Mecsico, ac mae’n gobeithio adeiladu arnyn nhw yn ystod ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2022.

Yn dilyn anafiadau a phroblemau’n ymwneud â fisas sydd wedi arwain at Aaron Ramsey, Joe Rodon, Neco Williams, George Thomas, Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper yn tynnu’n ôl, mae’n bosib y daw ei gyfle’n gynt na’r disgwyl wrth i Gymru herio’r Ffindir mewn gêm gyfeillgar cyn y gemau cystadleuol yn erbyn Belarws ac Estonia yr wythnos nesaf.

“Mae cyfle mawr i gryn dipyn o chwaraewyr, yn enwedig yn y gêm honno yn erbyn y Ffindir,” meddai.

Treuliodd Johnson y tymor diwethaf ar fenthyg yn Lincoln, ond mae e bellach yn chwarae i Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth, ac yn gobeithio chwarae’n fwy rheolaidd er mwyn cael cynrychioli ei wlad.

Bydd ei obeithion wedi cael hwb dros y penwythnos, ac yntau wedi rhwydo yn erbyn Derby yn ei gêm ddiwethaf.

“Gyda’r rhai sy’n absennol, mae’n gyfle da i rai o’r chwaraewyr fynd i mewn i’r tîm hwnnw ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd,” meddai.

“Roedd gwir angen y llynedd arna i, mynd allan ar fenthyg a chwarae gemau.

“Eleni yn y Bencampwriaeth, gobeithio y galla i fwrw ymlaen eto a gwneud yn dda.

“Mae’n well i fi os ydw i’n chwarae yn y Bencampwriaeth er mwyn cael rhagor o funudau i Gymru.”

Y tad a’r mab

Bu bron i’w dad David gynrychioli Cymru pan oedd Mark Hughes wrth y llyw yn 1999.

Ond fe wnaeth e ymrwymo’n ddiweddarach i’r Alban, cyn cynrychioli Jamaica pan ddaeth i’r amlwg nad oedd e ond yn gymwys i chwarae dros Loegr o blith gwledydd Prydain.

“Roedd fy nhad bob amser yn siarad yn gadarnhaol iawn am chwarae dros Gymru,” meddai’r mab sydd wedi ennill capiau i dimau dan 16 a dan 17 Lloegr.

“Roedd e’n hapus pan o’n i’n chwarae dros Gymru, mae’r strwythur bob amser wedi creu argraff arno fe yn fan hyn, ac fe wnaeth hynny y penderfyniad yn un eithaf hawdd i fi.”

Er ei fod yn dweud bod ganddo fe “sawl opsiwn”, roedd e’n awyddus i gynrychioli Cymru yn y pen draw.

“Unwaith i fi ddod trwy’r tîm dan 19, roedd ysbryd y tîm mor agos-atoch,” meddai. “Mae hi wedi bod yr un fath drwy’r tîm dan 19 a 21 a nawr y tîm cyntaf.

“Mae pawb wedi bod mor groesawgar ac yn gadael i chi chwarae pêl-droed.

“Dyna’r hyn oedd ei angen arna i – jyst gallu canolbwyntio ar hynny. Mae wedi teimlo’n hawdd iawn.”

“Mae’n freuddwyd enfawr gen i gyrraedd Cwpan y Byd, pe baen ni’n cyrraedd yno fe fyddai’n anghredadwy.

“Ond dw i’n credu bod ein tîm ni’n ddigon da a dw i’n credu y gallwn ni ei gwneud hi.”