Mae Olivia Breen wedi ennill medal efydd yn y naid hir yn nosbarth T38 yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo, gyda naid oedd yn record Baralympaidd am gyfnod byr iawn.
Roedd ei naid o 4.91m yn edrych yn ddigonol i gipio’r aur, cyn iddi gael ei thorri ddwywaith yn yr un gystadleuaeth.
Aeth y fedal aur i Luca Ekler o Hwngari am naid o 5.63m, sy’n torri record y byd, gyda’r fedal arian yn mynd i Margarita Goncharova o Rwsia (5.29m).
Dyma’r tro cyntaf iddi gyrraedd y podiwm yn y Gemau Paralympaidd, a dywedodd ei bod hi ar ben ei digon.
“Dw i wedi bod yn gweithio tuag at hyn ers pum mlynedd felly dw i’n hapus fod y cyfan wedi dod at ei gilydd,” meddai wrth Channel 4.
Daw ei llwyddiant ar ôl iddi orffen yn chweched yn y ras 100m ar ddechrau’r Gemau.