Mae Connor Roberts, cefnwr de tîm pêl-droed Cymru, wedi ymuno â Burnley am ffi sydd heb ei gyhoeddi.

Mae’n gadael Abertawe, y clwb lle cododd e drwy’r rhengoedd, ar ôl 152 o gemau ers y gyntaf yn erbyn Wolves yng Nghwpan FA Lloegr yn 2018.

Mae’r chwaraewr 25 oed wedi llofnodi cytundeb pedair blynedd gyda thîm Sean Dyche yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ac yntau’n gyn-ddeilydd tocyn tymor yr Elyrch, mae e wedi chwarae mwy o gemau proffesiynol i’r clwb nag unrhyw un arall a gododd drwy’r rhengoedd.

Mae e wedi sgorio 11 o goliau i’r clwb ac wedi creu 12 arall.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr wrth i’r clwb gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf.

Mae e wedi ennill 30 o gapiau dros Gymru gan sgorio dwy gôl – un ohonyn nhw yn erbyn Twrci yn yr Ewros dros yr haf.

Ond cafodd ei anafu yn ystod y gystadleuaeth, a dydy e ddim wedi chwarae ers hynny.

Yn y cyfamser, mae Ollie Cooper wedi ymuno â Chasnewydd ar fenthyg am weddill y tymor, mae Kyle Joseph wedi ymuno â Cheltenham am weddill y tymor.

Mae Jamal Lowe hefyd wedi gadael am Bournemouth ar ôl un tymor gyda’r Elyrch, a hynny am ffi anhysbys.

Symudodd e o Wigan, gan sgorio 14 o goliau yn ystod ei dymor cyntaf.

Chwaraeodd e 58 o weithiau i’r clwb, gan gynnwys chwech y tymor hwn, ond mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd gyda’i glwb newydd.

Mae’r Elyrch wedi denu Rhys Williams, yr amddiffynnwr 20 oed, o Lerpwl ar fenthyg am weddill y tymor.

Chwaraeodd e 19 o weithiau i Lerpwl y tymor diwethaf, ond prin fu ei gyfleoedd ers hynny oherwydd fod nifer o’r prif amddiffynwyr canol yn holliach eto.