Mae hi wedi bod yn “gwpwl o ddyddiau anodd dros ben” i Rob Page a charfan Cymru.
Mae anafiadau, problemau gyda fisas, ac achos newydd o Covid-19 o fewn y garfan wedi cael effaith fawr ar baratoadau Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir yn Helsinki nos fory (nos Fercher, Medi 1), cyn herio Belarws yn Rwsia (Medi 5) a dychwelyd i Gaerdydd i chwarae yn erbyn Estonia (Medi 9).
Yn wir, mae’n debyg nad oes yr un rheolwr Cymru erioed wedi wynebu amgylchiadau mor heriol cyn gemau pwysig mewn ymgyrch i gymhwyso ar gyfer twrnament rhyngwladol.
Ond mae Rob Page yn ceisio cadw meddylfryd bositif.
“Mae hi wedi bod yn gwpwl o ddyddiad anodd dros ben, ond dyna ni, mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen,” meddai.
“Allwn ni ddim eistedd yma yn crïo am y peth.
“Mae’n rhaid i ni gymryd y pethau positif o bob sefyllfa.
“Mae gennym ni gyfle i weld chwaraewyr eraill ac mae’n gyfle i chwaraewyr eraill ddangos eu sgiliau.”
Chwarae yn Rwsia yn “gwneud dim synnwyr”
“Dw i dal ddim yn deall pam eu bod nhw wedi gofyn i ni chwarae yn Rwsia,” meddai Rob Page wedyn.
“Dydy e ddim yn lle syml i hedfan i mewn iddo a chwarae gêm.
“Dw i eisiau diolch i’r chwaraewyr am ddangos eu hymrwymiad, a mynd allan o’u ffordd oherwydd mae hyn yn anghyfleus iddyn nhw ac i’w clybiau.
“Rydw i hefyd yn ddiolchgar i’r clybiau sydd wedi bod yn gefnogol iawn ar y cyfan wrth adael i’r chwaraewyr ymuno â ni.
“Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn cyd-fynd â’r ffenest (drosglwyddo) yn cau.
“Mae yno lot o chwaraewyr sy’n gyndyn i roi eu pasbortau achos mae’n bosib y byddan nhw eu hangen er mwyn symud (clwb).
“Felly mae’n sefyllfa anodd iawn i’r chwaraewyr hefyd, nid dim ond i ni, oherwydd maen nhw eisiau sicrhau eu bod nhw’n chwarae boed hynny yn Lloegr neu dramor ond er mwyn gwneud hynny maen nhw angen pasbortau.
“Ac wedyn mae gofyn i ni sortio fisas i chwaraewyr bedwar diwrnod cyn gêm.
“Dydy e’n gwneud dim synnwyr, ac mae wedi gwneud pethau yn llawer iawn mwy anodd i ni.”
Ond oedd yna rywbeth yn fwy allai fod wedi cael ei wneud i sicrhau na fyddai trafferthion gyda’r fisas?
“Peidio gorfod chwarae yn Rwsia,” meddai.
Achos Covid-19 Adam Davies yn “destun siom”
Mae’r ffaith fod Adam Davies, golwr gyda Stoke City, wedi profi’n bositif am Covid-19, yn “destun siom”, meddai Rob Page.
Bydd rhaid iddo hunanynysu am ddeng niwrnod, gan fethu tair gêm Cymru yn erbyn y Ffindir, Belarws ac Estonia.
Mae Tom King, sy’n chwarae i Salford City, wedi cael ei alw i’r garfan yn ei le, a bydd yn teithio i Helsinki gyda gweddill y garfan brynhawn heddiw (dydd Mawrth, Awst 31).
“Mae’n destun siom, ond mae ein record drwy gydol yr Ewros a’r haf wedi bod yn benigamp,” meddai Rob Page.
Ychwanega ei fod yn “hyderus” na fydd aelodau eraill o’r garfan yn cael eu heffeithio a bod “protocolau priodol” ar waith.
Ond mae bellach wedi dod i’r amlwg y bydd yn rhaid i Kieffer Moore hunanynysu am ddeng niwrnod hefyd.
“Mae Kieffer Moore wedi cael ei adnabod fel cyswllt agos ag Adam Davies ac felly bydd yn hunanynysu am 10 diwrnod.
“Ni fydd ar gael ar gyfer tair gêm nesaf Cymru.”
Dan James yn agosáu at drosglwyddiad i Leeds
Yn y cyfamser, mae Daniel James yn Leeds yn cwblhau ei drosglwyddiad o Manchester United i Leeds.
Mae’n debyg y bydd y ffi cychwynnol yn £25m gyda’r posibilrwydd o £5m ychwanegol maes o law.
Dywed Rob Page y bydd yn ymuno â’r garfan yn y Ffindir, ond fydd e ddim yn hedfan o Gaerdydd.
“Mae’n rhaid i mi fod yn hyblyg gyda’r chwaraewyr,” meddai.
“Rydyn ni’n dal i ddisgwyl i weld beth sy’n digwydd gyda’r sefyllfa honno, ond bydd yn ailymuno â’r garfan yn bendant.”
Ond ydy Rob Page yn teimlo bod hwn yn drosglwyddiad da i Daniel James?
“Mae e wedi cael gwybod ei fod yn cael gadael (Manchester United), ac mae’n edrych fel ei fod e wedi sicrhau trosglwyddiad i glwb sydd wir ei eisiau fe,” meddai.
“Rwyt ti eisiau i’r chwaraewyr i gyd deimlo fel yna, rydyn ni i gyd yn hoffi bod yn hyderus, rydyn ni gyd yn hoffi cael gwybod ein bod yn gwneud yn dda.
“Rydyn ni eisiau i’r holl chwaraewyr fod yn chwarae pêl-droed cystadleuol gyda thîm maen nhw’n ei garu.”