Met Caerdydd 3-2 Penybont

Enillodd Met Caerdydd ei gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Penybont.

Y tîm oddi cartref aeth ar y blaen, fodd bynnag, gyda Nathan Wood yn sgorio ar ôl tri munud.

Ond fe wnaeth Met Caerdydd ymateb yn gryf, gyda goliau gan Adam Roscrow,  Eliot Evans a Harry Owen yn eu rhoi 3-1 ar y blaen.

Sgoriodd Lewis Clutton gôl gysur i’r ymwelwyr yn y 90ain munud.

Aberystwyth 0-1 Bala

Sgoriodd Alex Darlington gôl i’w rwyd ei hun, gan roi’r fuddugoliaeth i’r Bala yn erbyn Aberystwyth, sy’n parhau i fod yn drydydd o waelod y tabl, gallwch ddarllen mwy ar y wefan fro leol, isod.

Cic-rydd-i-Aberystwyth

Noson Rwystredig i Aber

Gruffudd Huw

Aberystwyth 0 Bala 1 31/08/2021

Y Barri 3-2 Hwlffordd

Fe wnaeth cic gosb hwyr gan Clayton Green sicrhau’r pwyntiau i’r Barri gartref yn erbyn Hwlffordd.

Roedd Green wedi rhoi’r tîm cartref ar y blaen gyda’i gyntaf o’r noson, yn i Ben Fawcett sgorio dwywaith i roi Hwlffordd ar y blaen.

Rhwydodd Chris Hugh i unioni’r sgôr cyn i Green beidio gadael i’w nerfau gael y gorau ohono a sicrhau bod y pwyntiau yn aros yn y Barri.

Cei Connah 1-1 Caernarfon

Fe wnaeth y pencampwyr Cei Connah golli mwy o dir ar frig y tabl wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Caernarfon.

Roedd Darren Thomas, neu’r Cofi Messi, wedi rhoi’r Cofis ar y blaen a bu’n rhaid i John Disney achub pwynt i’r tîm cartref.

Mae Cei Connah bedwar pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ar frig y tabl nawr.

Y Drenewydd 5-0 Derwyddon Cefn

Mae dechrau ofnadwy Derwyddon Cefn i’r tymor yn parhau, wrth iddyn nhw golli o 5-0 yn erbyn y Drenewydd.

Nid yw’r Derwyddon wedi cymryd yr un pwynt o’u pedair gêm agoriadol.

Sgoriodd Lifumpa Mwandwe ddwywaith yn yr 16 munud cyntaf i roi’r Drenewydd ar ben ffordd.

Ychwanegodd James Davies drydedd, gyda Kieran Mills-Evans ac Aaron Williams yn cwblhau’r fuddugoliaeth swmpus.

Y Seintiau Newydd 1-0 Y Fflint

Fe gododd y Seintiau Newydd i frig y tabl gyda buddugoliaeth 1-0 dros y Fflint mewn gêm agos.

Maen nhw nawr wedi ennill ei pedair gêm agoriadol.

Hon oedd gêm fwyaf arwyddocaol y tymor hyd yma, gan mai’r Fflint oedd wedi bod ar dop y tabl ar wahaniaeth goliau cyn yr ornest.

Sgoriodd Adrian Cieslewicz i sicrhau’r pwyntiau i dîm Andy Limbrick.