Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Essex yng Nghaerdydd mewn ychydig dros ddeudydd.
Roedd angen pedair wiced ar yr ymwelwyr, ac fe ddaeth y rheiny o fewn 32 munud ar y trydydd bore, wrth iddyn nhw ennill o fatiad a 74 rhediad.
Ar ôl sgorio 132 yn eu batiad cyntaf, gyda Shane Snater yn cipio chwe wiced am 39, fe wnaeth Morgannwg adael i’r gêm lithro o’u gafael wrth i Essex sgorio 320 diolch i 102 gan yr agorwr Nick Browne a 63 gan Michael Pepper, cyn i Snater gyfrannu 48 at y sgôr.
Yr unig galondid yn y batiad cyntaf i Forgannwg o safbwynt eu bowlwyr oedd fod Steven Reingold wedi cipio tair wiced am 15 mewn chwe phelawd yn ei gêm gyntaf mewn criced dosbarth cyntaf i’r sir.
Roedd cryn waith gan Forgannwg i’w wneud wedyn i achub y gêm wrth iddyn nhw chwalu unwaith eto yn yr ail fatiad wrth lithro i 29 am chwech – ar ôl bod yn 57 am chwech yn eu batiad cyntaf hefyd.
Daeth y seithfed wiced yn ail belawd y diwrnod, pan gafodd Andrew Salter ei fowlio gan Porter wrth gamergydio.
Timm van der Gugten oedd yr wythfed batiwr allan wrth iddo fe daro pelen fer at y wicedwr Adam Wheater oddi ar fowlio Cook.
Daeth Lukas Carey i’r llain yn barod i ymosod er mwyn ceisio achub y gêm, er mor annhebygol oedd hynny, ac fe darodd e chwech a phedwar oddi ar ddwy belen yn olynol cyn cael ei ddal yn syth ar ochr y goes gan Josh Rymell oddi ar fowlio Cook am 29 oddi ar 17 pelen, gan gynnwys pum pedwar ac un chwech.
Cafodd Michael Hogan ei fowlio gan Cook oddi ar ei belen gyntaf, ac roedd y capten Chris Cooke heb fod allan ar 47 ben draw’r llain wrth i’r ornest ddod i ben.Gorffennodd Sam Cook gyda phum wiced am 37 a Jamie Porter dair wiced am 35.