Mae Abertawe heddiw wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo cyn-chwaraewr canol cae Celtic, Olivier Ntcham, ar gytundeb tair blynedd.

Mae’r Ffrancwr 25 oed yw’r nawfed chwaraewr i ymuno â’r Elyrch yr haf hwn – er bod y trosglwyddiad yn dal i fod yn amodol ar gliriad rhyngwladol a chymeradwyaeth gan y gynghrair.

Cafodd ei ryddhau gan Celtic fis yn ôl, er iddo wneud 146 o ymddangosiadau a sgorio 24 o goliau. Buodd ar fenthyg yn Marseille am gyfnod y tymor diwethaf.

Enillodd Ntcham dair Uwchgynghrair yr Alban, dau Gwpan yr Alban a dau Gwpan Cynghrair yr Alban yn ystod ei gyfnod yn Parkhead, ac mae hefyd wedi cael cyfnod ar fenthyg yn gynt yn ei yrfa pan oedd ar lyfrau Manchester City, y tro hwnnw gyda Genoa.

Mae ganddo ugain o gapiau i dîm dan 21 Ffrainc.