Mae Danny Ward wedi ei enwi’n gapten Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Y Ffindir.

Ar ôl cael eu taro gan gyfres o anafiadau, un achos o Covid-19 a chyswllt at yr achos hwnnw, mae Cymru’n gorfod gwneud nifer o newidiadau.

Mae David Brooks, Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas, a Neco Williams i gyd wedi tynnu allan o’r garfan gydag anafiadau.

Fe wnaeth Adam Davies brofi’n positif ar gyfer Covid-19, sy’n golygu ei fod o’n gorfod hunanynysu, yn ogystal â Kieffer Moore, a oedd wedi bod mewn cysylltiad agos ag o.

O’r rhai wnaeth ddechrau’r gêm yn erbyn Denmarc yn Ewro 2020 ym mis Mehefin, dim ond Ward sydd yn parhau yn yr 11 cyntaf.

Bydd prif sgoriwr Cymru, Gareth Bale, ar y fainc ar gyfer y gêm yn Helsinki.

Mae’r gic gyntaf yn Stadiwm Olympaidd Helsinki am 5pm heddiw (dydd Mercher, 1 Medi).

Rhaid bod yn bositif

Wrth drafod yr absenoldebau, dywedodd Rob Page yn y gynhadledd i’r wasg cyn y gêm ei fod yn gorfod symud ymlaen.

“Mae hi wedi bod yn gwpwl o ddyddiad anodd dros ben, ond dyna ni, mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen,” meddai.

“Allwn ni ddim eistedd yma yn crïo am y peth.

“Mae’n rhaid i ni gymryd y pethau positif o bob sefyllfa.

“Mae gennym ni gyfle i weld chwaraewyr eraill ac mae’n gyfle i chwaraewyr eraill ddangos eu sgiliau.”

Yr 11 cyntaf

Danny Ward (capten), Rhys Norrington-Davies, James Lawrence, Tom Lockyer, Ethan Ampadu, Jonny Williams, Matthew Smith, Dylan Levitt, Harry Wilson, Tyler Roberts, Brennan Johnson

Y Gwrthwynebwyr

Bydd tîm y Ffindir hefyd yn methu llawer o wynebau o’u carfan Ewro 2020, gyda dim ond Glen Kamara, Jukka Raitala a Joona Toivio yn cadw eu lle.

Mae ymosodwr Norwich, Teemu Pukki, wedi cael ei adael ar y fainc ar gyfer y gêm gyfeillgar.