Ar ôl cael eu taro gan gyfres o anafiadau, un achos o Covid-19, a chyswllt at yr achos hwnnw, rhaid oedd i Gymru’n wneud nifer o newidiadau ar gyfer y gêm gyfeillgar â’r Ffindir a orffennodd yn ddi-sgôr.

Roedd David Brooks, Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas, a Neco Williams i gyd wedi tynnu allan o’r garfan gydag anafiadau.

Adam Davies oedd wedi profi’n positif ar gyfer Covid-19, ac roedd yn rhaid iddo yntau a Kieffer Moore, a oedd wedi bod mewn cysylltiad agos ag ef, hunanynysu.

O’r rhai wnaeth ddechrau’r gêm yn erbyn Denmarc yn Ewro 2020 ym mis Mehefin, dim ond Ward sydd yn parhau yn yr 11 cyntaf – a chafodd yntau ei wneud yn gapten.

Roedd tîm y Ffindir hefyd yn methu llawer o wynebau o’u carfan Ewro 2020, gyda dim ond Glen Kamara, Jukka Raitala a Joona Toivio yn cadw eu lle.

Roedd ymosodwr Norwich, Teemu Pukki, wedi cael ei adael ar y fainc gyda llygad ar gemau pwysicach, yn union fel Gareth Bale i Gymru.

Dechrau’r gêm

Wrth i’r gêm gychwyn, enillodd Cymru gic rydd gynnar. Rhoddodd Dylan Levitt hi yn y blwch, ond peniodd Ethan Ampadu drosodd.

Cafwyd dechrau eithaf hyderus gan Gymru o gofio’r holl chwaraewyr oedd ar goll, a gwelodd Harry Wilson ergyd yn cael ei rhwystro.

Roedd Cymru’n pwyso’n uchel ac yn llawn egni tua dechrau’r gêm.

Deliodd Cymru yn gyfforddus â thoriad cyflym gan y Ffindir ond doedd dim rhyw lawer yn digwydd – er bod y gêm yn cael ei chwarae’n weddol sionc o ystyried mai gêm gyfeillgar oedd hi.

Cic o’r smotyn

Yna, ar ôl 25 munud, dyfarnwyd cic o’r smotyn i Gymru pan gafodd Brennan Johnson, chwaraewr disgleiriaf Cymru, ei lorio gan Niko Hamalainen.

Camodd Harry Wilson i fyny, ond cafodd ei gic wael ei gwthio i ffwrdd yn gyfforddus gan Carljohan Eriksson.

0-0 oedd y sgôr ar yr hanner ac roedd hi’n reit amlwg fod y ddau dîm â’u golygon ar gemau eraill.

Ail hanner

Daeth Cymru â Ben Davies i’r maes yn lle James Lawrence – sy’n awgrymu y bydd y ddau’n dechrau yn erbyn Belarws ddydd Sul, a daeth Wayne Hennessey i’r maes hefyd yn lle’r capten Danny Ward.

Gweithred gyntaf Wayne Hennessey oedd gwylio ergyd yn mynd allan am gornel.

Gwelwyd amddiffynwyr canol Cymru, ar y dde a’r chwith, yn mynd ar ambell rediad tuag ymlaen hefyd – rhywbeth sy’n nodweddiadol o gyfnod rheolwr cynorthwyol newydd Cymru, Alan Knill, yn Sheffield United. Tybed a welwn ni fwy o’r chwarae cyffros yma gan Gymru yn y gemau i ddod??

Yn y cyfamser, gallwch ddarllen cyfweliad Golwg ag Alan Knill, isod.

O gysgodi Marco van Basten i gynorthwyo rheolwr Cymru

Alun Rhys Chivers

Mae olynydd Albert Stuivenberg yn edrych ymlaen at ail gyfle i fod yn rhan o garfan Cymru fel aelod o dîm hyfforddi Rob Page

Eilyddio

Ar ôl 56 munud, cafwyd ymdrech tipyn gwell na’i gic o’r smotyn gan Harry Wilson, gan guro’r wal, ond gwthiodd Carljohan Eriksson y bêl yn glir.

Yna, ar ôl awr, roedd yna gic rydd arall i Gymru. Rhoddodd Harry Wilson hi i mewn ond cliriodd y Ffindir. Er, dim ond i Matt Smith… ond aeth ymdrech y chwaraewr canol cae yn llydan.

Yn fuan wedyn, daeth Rubin Colwill a Josh Sheehan ymlaen am Jonny Williams a Brennan Johnson.

Ar ôl tua 70 munud, cafodd Tyler Roberts gyfle, ond achubodd Carljohan Eriksson eto – roedd yntau’n cael ei gêm gyntaf i’w wlad, ac yn perfformio’n ddestlus iawn.

Wrth i bethau arafu tuag at ddiwedd y gêm, daeth Ben Woodburn i’r maes yn lle Ethan Ampadu am ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers mis Mawrth 2019 – gobeithio y gwelwn fwy ohono dros y blynyddoedd i ddod.

O ran hynny, mae colofnydd chwaraeon Golwg yn obeithiol – gallwch ddarllen mwy isod.

Yr ateb i anafiadau Aaron?

Phil Stead

“Mae’n teimlo fel bod hwn yn dymor hollbwysig i Woodburn…”

Bale yn cyffwrdd y bêl

Daeth newid olaf i Gymru wrth i rywun o’r enw Gareth Bale ddod i’r maes am Tyler Roberts.

Arweiniodd chwarae da gan Matt Smith at gyfle i Bale – ond ni allodd fanteisio.

A dyna ni mewn gwirionedd – daeth y dyfarnwr â gêm reit ddibwynt i ben.

Perfformiad gweddol gan Gymru, ond mae gemau pwysicach i ddod yn erbyn Belarws ddydd Sul (2pm), ac Estonia yng Nghaerdydd wythnos i heno (7:45pm).

A dyna, i bob pwrpas, ddwedodd Matt Smith wrth Sgorio ar ddiwedd y gêm:

“Rwy’n credu ei fod yn berfformiad cadarnhaol. Gall y gemau cyfeillgar yma fod yn anodd, rydyn ni’n ceisio mynd drwy’r gêm heb gael unrhyw anafiadau ac yna ganolbwyntio ar y ddwy gêm fawr sy’n dod i fyny.

“Roedd llawer o bethau positif i’w cymryd o hyn a nawr rydyn ni’n symud ymlaen i’r penwythnos.”