Doedd hi’n syrpreis i neb i ddarllen yr wythnos yma bod Aaron Ramsey wedi dioddef anaf arall.

Ar ôl torri ei goes yn 2010 mae fy hoff chwaraewr erioed wedi straffaglu gyda’i ffitrwydd gydag anafiadau yn cadw e allan o ran fwyaf o gemau Cymru yn y blynyddoedd diweddar.

Does ’na ddim dwywaith bod absenoldeb Ramsey yn gadael bwlch mawr yn y tîm sydd wedi profi’n amhosib i’w lenwi.