Mae un o gyfarwyddwyr cwmni bwyd ci sydd newydd ennill gwobr fyd-eang yn dweud bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu colled o dros dri chwarter miliwn y flwyddyn o bunnoedd o werthiant iddynt.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae cwmni Pero o Ddyffryn Conwy wedi ennill nifer o wobrau, eglura Jonathan Rees wrth Golwg. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mae o’n un o ddau gyfarwyddwr y cwmni, ochr yn ochr â’r perchennog, Dewi Parry.